xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
3(1)Mae’r Cyngor i gael 14 o aelodau.
(2)Ond caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r paragraff hwn drwy orchymyn i bennu bod y Cyngor i gael—
(a)nifer gwahanol o aelodau, neu
(b)isafswm ac uchafswm penodedig o aelodau.
(3)Gweinidogion Cymru sydd i benodi aelodau.
(4)Wrth i Weinidogion Cymru gyflawni unrhyw swyddogaeth mewn perthynas ag aelodaeth y Cyngor, rhaid iddynt—
(a)rhoi sylw i ddymunoldeb sicrhau bod yr aelodaeth honno yn cynnwys personau â’r profiad a’r sgiliau y mae eu hangen i alluogi’r Cyngor i gyflawni ei swyddogaethau yn effeithlon ac yn effeithiol, a
(b)sicrhau bod y mwyafrif o aelodau’r Cyngor yn bersonau cofrestredig, neu wedi bod yn bersonau cofrestredig yn ddiweddar.
(5)Mae aelodau i weithredu fel unigolion (hynny yw, nid ydynt i weithredu fel cynrychiolwyr unrhyw sefydliad neu gorff y gallant fod yn perthyn iddo, nac unrhyw berson, sefydliad neu gorff sydd wedi eu henwebu).
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 1 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50
I2Atod. 1 para. 3(1)-(4)(a)(5) mewn grym ar 18.8.2014 gan O.S. 2014/2162, ergl. 2(b)(i)
I3Atod. 1 para. 3(1)-(4)(a)(5) mewn grym ar 1.4.2015 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2015/29, ergl. 3(u)
I4Atod. 1 para. 3(4)(b) mewn grym ar 1.4.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 3(u)