Pwerau
This section has no associated Explanatory Notes
2(1)Caiff y Cyngor wneud unrhyw beth a fwriedir i hwyluso cyflawni unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau, neu sy’n gysylltiedig â hynny neu’n ffafriol i hynny.
(2)Yn benodol, caiff y Cyngor—
(a)caffael a gwaredu tir neu eiddo arall;
(b)ymrwymo i gontractau;
(c)buddsoddi symiau nad oes eu hangen ar unwaith at ddiben cyflawni ei swyddogaethau;
(d)derbyn rhoddion o arian, tir neu eiddo arall;
(e)ffurfio cyrff corfforaethol neu gysylltiedig neu gyrff eraill nad ydynt yn gyrff corfforaethol;
(f)ymrwymo i fentrau ar y cyd â phersonau eraill;
(g)tanysgrifio am gyfranddaliadau a stoc;
(h)cael benthyg arian.