ATODLEN 1CYNGOR Y GWEITHLU ADDYSG

Pwerau

2

(1)

Caiff y Cyngor wneud unrhyw beth a fwriedir i hwyluso cyflawni unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau, neu sy’n gysylltiedig â hynny neu’n ffafriol i hynny.

(2)

Yn benodol, caiff y Cyngor—

(a)

caffael a gwaredu tir neu eiddo arall;

(b)

ymrwymo i gontractau;

(c)

buddsoddi symiau nad oes eu hangen ar unwaith at ddiben cyflawni ei swyddogaethau;

(d)

derbyn rhoddion o arian, tir neu eiddo arall;

(e)

ffurfio cyrff corfforaethol neu gysylltiedig neu gyrff eraill nad ydynt yn gyrff corfforaethol;

(f)

ymrwymo i fentrau ar y cyd â phersonau eraill;

(g)

tanysgrifio am gyfranddaliadau a stoc;

(h)

cael benthyg arian.