Deddf Addysg (Cymru) 2014

Pwyllgor archwilioLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

19(1)Rhaid i’r Cyngor sefydlu pwyllgor (“pwyllgor archwilio”) i—

(a)adolygu materion ariannol y Cyngor a chraffu arnynt,

(b)adolygu ac asesu trefniadau rheoli risg, rheolaeth fewnol a llywodraethu corfforaethol y Cyngor,

(c)adolygu ac asesu darbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd y defnydd sydd wedi ei wneud o adnoddau wrth gyflawni swyddogaethau’r Cyngor, a

(d)gwneud adroddiadau ac argymhellion i’r Cyngor mewn perthynas ag adolygiadau a gynhelir o dan baragraffau (a), (b) neu (c).

(2)Rhaid i’r pwyllgor archwilio anfon copïau o’i adroddiadau a’i argymhellion at Weinidogion Cymru.

(3)Y pwyllgor archwilio sydd i benderfynu sut i gyflawni ei swyddogaethau o dan y paragraff hwn.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 para. 19 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I2Atod. 1 para. 19 mewn grym ar 1.4.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 3(u)