xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 1LL+CCYNGOR Y GWEITHLU ADDYSG

Swyddog cyfrifydduLL+C

18(1)Caiff Gweinidogion Cymru ddynodi person i weithredu fel swyddog cyfrifyddu’r Cyngor.

(2)Mae gan y swyddog cyfrifyddu, mewn perthynas â chyfrifon a chyllid y Cyngor, y cyfrifoldebau a bennir mewn cyfarwyddyd gan Weinidogion Cymru.

(3)Ymhlith y cyfrifoldebau y caniateir eu pennu mae cyfrifoldebau—

(a)mewn perthynas â llofnodi cyfrifon;

(b)am briodoldeb a rheoleidd-dra cyllid y Cyngor;

(c)am sicrhau darbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd wrth i’r Cyngor ddefnyddio ei adnoddau;

(d)sy’n ddyledus i Weinidogion Cymru, Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol;

(e)sy’n ddyledus i Dŷ’r Cyffredin neu Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Tŷ hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 para. 18 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I2Atod. 1 para. 18 mewn grym ar 1.4.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 3(u)