xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Valid from 18/08/2014
12(1)O ran y Cyngor,—
(a)caiff sefydlu pwyllgorau at unrhyw ddiben, a
(b)os yw rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru yn gwneud hynny’n ofynnol, rhaid iddo sefydlu unrhyw bwyllgorau at unrhyw ddibenion a bennir yn y rheoliadau;
(ond gweler hefyd baragraffau 19 ac 20).
(2)Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), o ran y Cyngor,—
(a)caiff benderfynu ar nifer yr aelodau y mae pwyllgor a sefydlir o dan y paragraff hwn i’w cael, a
(b)rhaid iddo benderfynu ar y telerau y mae’r aelodau hynny i fod yn y swydd a gadael y swydd yn unol â hwy.
(3)Caiff rheoliadau o dan is-baragraff (1)(b) wneud darpariaeth ynghylch—
(a)aelodaeth pwyllgor a sefydlir o dan y rheoliadau;
(b)y telerau y mae aelodau’r pwyllgor hwnnw i adael y swydd yn unol â hwy;
(c)gweithdrefn y pwyllgor hwnnw.
(4)Caiff rheoliadau o dan is-baragraff (1)(b) hefyd awdurdodi’r Cyngor i wneud darpariaeth mewn cysylltiad ag unrhyw fater y caniateir i ddarpariaeth gael ei gwneud gan y rheoliadau hynny mewn perthynas â hi.
(5)Yn ddarostyngedig i unrhyw amodau a osodir gan reoliadau sydd wedi eu gwneud o dan is-baragraff (1)(b), caiff y Cyngor gynnwys ar bwyllgor bersonau nad ydynt yn aelodau o’r Cyngor.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 1 para. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50