xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 1LL+CCYNGOR Y GWEITHLU ADDYSG

Cynlluniau yn ymwneud â thâl etcLL+C

10(1)Rhaid i’r Cyngor—

(a)llunio cynllun sy’n nodi ei ddull o benderfynu ar y symiau y caiff eu talu—

(i)i aelodau o dan baragraff 7, a

(ii)i gyflogeion o dan baragraff 9 (gan gynnwys y prif swyddog os yw rheoliadau a wneir o dan baragraff 9(2)(c) yn gwneud hynny’n ofynnol), a

(b)cyflwyno’r cynllun i Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo.

(2)Dim ond yn unol â chynllun y mae Gweinidogion Cymru wedi ei gymeradwyo o dan y paragraff hwn y caiff y Cyngor benderfynu ar y symiau y mae’n eu talu i aelodau a chyflogeion.

(3)Rhaid i’r Cyngor gyhoeddi cynllun sydd wedi ei gymeradwyo gan Weinidogion Cymru yn y modd y caiff Gweinidogion Cymru ei bennu.

(4)Caiff y Cyngor ddiwygio’r cynllun o bryd i’w gilydd (ac os felly, mae is-baragraffau (1)(b), (2) a (3) yn gymwys i’r cynllun diwygiedig hwnnw).

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 para. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I2Atod. 1 para. 10 mewn grym ar 1.4.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 3(u)