ATODLEN 1CYNGOR Y GWEITHLU ADDYSG
Cynlluniau yn ymwneud â thâl etc
10
(1)
Rhaid i’r Cyngor—
(a)
llunio cynllun sy’n nodi ei ddull o benderfynu ar y symiau y caiff eu talu—
(i)
i aelodau o dan baragraff 7, a
(ii)
i gyflogeion o dan baragraff 9 (gan gynnwys y prif swyddog os yw rheoliadau a wneir o dan baragraff 9(2)(c) yn gwneud hynny’n ofynnol), a
(b)
cyflwyno’r cynllun i Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo.
(2)
Dim ond yn unol â chynllun y mae Gweinidogion Cymru wedi ei gymeradwyo o dan y paragraff hwn y caiff y Cyngor benderfynu ar y symiau y mae’n eu talu i aelodau a chyflogeion.
(3)
Rhaid i’r Cyngor gyhoeddi cynllun sydd wedi ei gymeradwyo gan Weinidogion Cymru yn y modd y caiff Gweinidogion Cymru ei bennu.
(4)
Caiff y Cyngor ddiwygio’r cynllun o bryd i’w gilydd (ac os felly, mae is-baragraffau (1)(b), (2) a (3) yn gymwys i’r cynllun diwygiedig hwnnw).