xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 4LL+CDARPARIAETH GYFFREDINOL

45Statws fel Deddf AddysgLL+C

Mae’r Ddeddf hon i gael ei chynnwys yn y rhestr o Ddeddfau Addysg a nodir yn adran 578 o Ddeddf 1996.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 45 mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50(1)(b)

46Darpariaeth ategolLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, wneud unrhyw ddarpariaeth gysylltiedig, ganlyniadol, atodol, drosiannol, ddarfodol neu arbed sy’n briodol yn eu barn hwy at ddibenion rhoi effaith lawn i unrhyw ddarpariaeth a wneir gan y Ddeddf hon neu oddi tani neu mewn cysylltiad â hynny.

(2)Caiff gorchymyn o dan yr adran hon addasu’r deddfiad hwn neu unrhyw ddeddfiad arall.

Gwybodaeth Cychwyn

I2A. 46 mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50(1)(c)

47Gorchmynion a rheoliadauLL+C

(1)Mae unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Ddeddf hon (ac eithrio gorchymyn o dan adran 50) yn arferadwy drwy offeryn statudol ac mae’n cynnwys y pŵer i—

(a)gwneud unrhyw ddarpariaeth gysylltiedig, ganlyniadol, atodol, drosiannol, ddarfodol neu arbed sy’n angenrheidiol neu’n hwylus ym marn Gweinidogion Cymru at ddibenion y Ddeddf hon neu mewn cysylltiad â hi, a

(b)gwneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol gan gynnwys, yn benodol, gwneud darpariaeth wahanol ar gyfer categorïau cofrestru gwahanol.

(2)Ni chaniateir i offeryn statudol sy’n cynnwys (ar ei ben ei hun neu gyda darpariaeth arall)—

(a)gorchymyn o dan adran 5;

(b)gorchymyn o dan adran 10(6);

(c)rheoliadau o dan adran 12;

(d)gorchymyn o dan adran 46 sy’n cynnwys darpariaeth sy’n ychwanegu at destun Deddf Seneddol neu Fesur neu Ddeddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, yn diwygio’r testun neu’n ei hepgor;

(e)gorchymyn o dan baragraff 3 o Atodlen 1 neu baragraff 2 o Atodlen 2,

gael ei wneud oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo.

(3)Mae unrhyw offeryn statudol arall sy’n cynnwys gorchymyn neu reoliadau o dan y Ddeddf hon (ac eithrio gorchymyn o dan adran 50) i fod yn ddarostyngedig i gael ei ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 47 mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50(1)(d)

48Mân ddiwygiadau a diddymiadau a diwygiadau a diddymiadau canlyniadolLL+C

Mae Atodlen 3 (sy’n gwneud mân ddiwygiadau a diddymiadau a diwygiadau a diddymiadau canlyniadol) yn cael effaith.

Gwybodaeth Cychwyn

I4A. 48 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I5A. 48 mewn grym ar 14.7.2014 gan O.S. 2014/1605, ergl. 2(c)

49Dehongli cyffredinolLL+C

(1)Yn y Ddeddf hon, onid yw’r cyd-destun yn mynnu fel arall—

(2)Mae i ymadroddion eraill, os defnyddir hwy yn y Ddeddf hon ac yn Neddf 1996, yr un ystyr yn y Ddeddf hon ag yn Neddf 1996.

(3)Ond pan roddir i ymadrodd at ddibenion unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon ystyr sy’n wahanol i’r un a roddwyd iddo at ddibenion Deddf 1996, mae’r ystyr hwnnw i fod yn gymwys at ddibenion y ddarpariaeth honno yn lle’r un a roddwyd at ddibenion Deddf 1996.

Gwybodaeth Cychwyn

I6A. 49 mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50(1)(e)

50CychwynLL+C

(1)Daw’r darpariaethau a ganlyn i rym ar y diwrnod y mae’r Ddeddf hon yn cael y Cydsyniad Brenhinol—

(a)adran 1;

(b)adran 45;

(c)adran 46;

(d)adran 47;

(e)adran 49;

(f)yr adran hon;

(g)adran 51.

(2)Daw adran 42 i rym ar y diwrnod y mae’r Ddeddf hon yn cael y Cydsyniad Brenhinol ond dim ond i’r graddau y mae ei hangen er mwyn i reoliadau gael eu gwneud o dan adran 32A(6) neu 32B(4) o Ddeddf 2002.

(3)Daw paragraff 2 o Ran 1 o Atodlen 3 i rym ar ddiwedd y cyfnod o ddau fis sy’n dechrau ar y diwrnod y mae’r Ddeddf hon yn cael y Cydsyniad Brenhinol.

(4)Daw darpariaethau eraill y Ddeddf hon i rym ar unrhyw ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn a wneir drwy offeryn statudol.

(5)Caiff gorchymyn o dan is-adran (4)—

(a)pennu diwrnodau gwahanol at ddibenion gwahanol, a

(b)cynnwys unrhyw ddarpariaeth drosiannol, ddarfodol neu arbed sy’n angenrheidiol neu’n hwylus ym marn Gweinidogion Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 50 mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50(1)(f)

51Enw byrLL+C

Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Addysg (Cymru) 2014.

Gwybodaeth Cychwyn

I8A. 51 mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50(1)(g)