RHAN 2Y GWEITHLU ADDYSG
Cofrestru’r gweithlu addysg
9Cofrestr
1
Rhaid i’r Cyngor sefydlu a chynnal cofrestr at ddibenion y Rhan hon.
2
Rhaid i’r gofrestr gynnwys enw pob person sy’n gymwys i’w gofrestru o dan adran 10 ac sy’n gwneud cais i gael ei gofrestru.
3
Rhaid i’r gofrestr gynnwys y categorïau a nodir ac a ddisgrifir yn nhabl 1 o Atodlen 2 (y “categorïau cofrestru”).
4
Rhaid i bob person cofrestredig fod wedi ei gofrestru mewn o leiaf un categori cofrestru.
5
Caniateir i berson gael ei gofrestru ar sail dros dro.
10Cymhwystra ar gyfer cofrestru
1
Mae person yn gymwys i’w gofrestru os yw’r person yn bodloni’r amodau yn yr adran hon.
2
Yr amod cyntaf yw bod y person—
a
yn bodloni’r disgrifiad o gategori cofrestru ac wedi cwblhau’n foddhaol unrhyw gyfnod sefydlu sy’n ofynnol yn rhinwedd adran 17, neu
b
yn bodloni unrhyw ofynion ar gyfer cofrestru dros dro a bennir drwy reoliadau gan Weinidogion Cymru.
3
Yr ail amod yw nad yw’r person—
a
wedi ei wahardd rhag gweithgaredd a reoleiddir sy’n ymwneud â phlant (o fewn ystyr adran 3(2) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 (p. 47)),
b
yn ddarostyngedig i orchymyn disgyblu a wneir o dan y Ddeddf hon ac yn rhinwedd y gorchymyn hwnnw mae’r person yn anghymwys i gofrestru, neu
c
wedi ei anghymhwyso rhag gweithio mewn swydd sy’n cyfateb i’r categori cofrestru y mae’n ceisio cofrestru ar ei gyfer mewn rhan arall o’r Deyrnas Unedig.
4
Y trydydd amod yw bod y Cyngor, ar adeg cofrestru, yn fodlon bod y ceisydd yn berson addas i’w gofrestru yn y categori cofrestru y mae’n ceisio cofrestru ar ei gyfer.
5
Wrth arfer ei swyddogaethau o dan is-adran (4), rhaid i’r Cyngor roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru.
6
Caiff Gweinidogion Cymru drwy orchymyn ddiwygio is-adran (3) i bennu unrhyw seiliau ychwanegol o ran anghymhwystra sy’n angenrheidiol neu’n hwylus yn eu barn hwy.
7
Cyn gwneud gorchymyn o dan is-adran (6) rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau neu gyrff sy’n briodol yn eu barn hwy.
11Apelau yn erbyn gwrthod cais i gofrestru
1
Caiff person y mae ei gais i gofrestru wedi ei wrthod gan y Cyngor ar y sail nad oedd y Cyngor wedi ei fodloni o ran addasrwydd y ceisydd o dan adran 10(4) apelio yn erbyn y penderfyniad i’r Uchel Lys.
2
Rhaid gwneud apêl o dan is-adran (1) cyn pen y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau ar y dyddiad y cyflwynir yr hysbysiad am y penderfyniad i’r ceisydd.
3
Mewn cysylltiad ag apêl o’r fath, caiff yr Uchel Lys wneud unrhyw orchymyn sy’n briodol yn ei farn ef.
4
Mae penderfyniad yr Uchel Lys yn derfynol (ac ni chaniateir apelio yn ei erbyn).
12Ffioedd cofrestru
1
Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ynghylch y ffioedd y caniateir iddynt fod yn daladwy mewn cysylltiad â chofrestru (gan gynnwys ffioedd er mwyn ailosod enw ar y gofrestr neu er mwyn cadw enw arni).
2
Caiff rheoliadau o dan yr adran hon, yn benodol, wneud darpariaeth—
a
yn awdurdodi’r Cyngor i godi ffioedd a’u hadennill;
b
ynghylch swm y ffioedd (a phwy sydd i benderfynu’r swm hwnnw);
c
ynghylch unrhyw eithriadau neu esemptiadau y caniateir iddynt fod yn gymwys neu y mae rhaid iddynt fod yn gymwys;
d
yn ei gwneud yn ofynnol i gyflogwyr personau cofrestredig—
i
didynnu (neu drefnu didyniad) o gyflog person cofrestredig unrhyw ffi sy’n daladwy, a
ii
talu’r ffi honno i’r Cyngor;
e
ynghylch y trefniadau sydd i’w mabwysiadu gan gyflogwyr yn unol â pharagraff (d);
f
ynghylch y taliadau gweinyddu y caiff cyflogwyr eu didynnu o unrhyw ffioedd a delir i’r Cyngor;
g
ynghylch canlyniadau methu â thalu ffioedd (a gaiff gynnwys gwrthod cofrestru neu ddileu enw o’r gofrestr).
3
Yn yr adran hon, mae “cyflog” yn cynnwys unrhyw dâl sy’n daladwy mewn cysylltiad â gwasanaethau a ddarperir gan berson cofrestredig.
13Cofrestru: darpariaeth bellach
1
Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud unrhyw ddarpariaeth bellach ynghylch y gofrestr a chofrestru sy’n briodol neu’n hwylus yn eu barn hwy.
2
Caiff rheoliadau o dan yr adran hon, yn benodol, wneud darpariaeth ynghylch—
a
ffurf a chynnwys y gofrestr;
b
y ffurf a’r dull ar gyfer gwneud cais i gofrestru;
c
y ddogfennaeth a thystiolaeth arall sydd i fynd gyda cheisiadau;
d
sut i roi gwybod i geisydd am—
i
y penderfyniad o ran p’un ai i gymeradwyo neu i wrthod cais i gofrestru, a
ii
yn achos gwrthod cofrestru, y sail ar gyfer gwrthod y cais a hawl y ceisydd i apelio yn erbyn y penderfyniad;
e
y materion sydd i’w cofnodi yn y gofrestr yn erbyn enwau’r rhai hynny sydd wedi eu cofrestru ynddi;
f
ailosod cofnodion a’u newid;
g
dileu cofnodion o’r gofrestr o dan yr amgylchiadau hynny a bennir yn y rheoliadau;
h
dyroddi tystysgrifau cofrestru a ffurf y tystysgrifau hynny;
i
yr wybodaeth sydd wedi ei chynnwys yn y gofrestr y caniateir iddi fod ar gael i’r cyhoedd edrych arni a’r amgylchiadau hynny pan ganiateir i’r wybodaeth honno fod ar gael a’r amodau hynny y caniateir i’r wybodaeth honno fod ar gael yn ddarostyngedig iddynt.