Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

99Penodi swyddog adolygu annibynnolLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Os yw awdurdod lleol yn gofalu am blentyn, rhaid iddo benodi unigolyn i fod yn swyddog adolygu annibynnol ar achos y plentyn hwnnw.

(2)Rhaid gwneud y penodiad cychwynnol o dan is-adran (1) cyn i achos y plentyn gael ei adolygu gyntaf yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 102.

(3)Os yw swydd wag yn codi mewn perthynas ag achos plentyn, rhaid i’r awdurdod lleol wneud penodiad arall o dan is-adran (1) cyn gynted ag y bo’n ymarferol.

(4)Rhaid i’r person a benodir ddod o fewn categori o bersonau a bennir mewn rheoliadau.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 99 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I2A. 99 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)