RHAN 6PLANT SY’N DERBYN GOFAL A PHLANT SY’N CAEL EU LLETYA
Cyswllt ac ymweliadau
98Ymwelwyr annibynnol ar gyfer plant sy’n derbyn gofal
(1)
Rhaid i awdurdod lleol sy’n gofalu am blentyn benodi person annibynnol i fod yn ymwelydd ar gyfer y plentyn os—
(a)
yw’r plentyn yn dod o fewn categori a bennwyd mewn rheoliadau, neu
(b)
mewn unrhyw achos arall, yr ymddengys i’r awdurdod y byddai gwneud hynny’n fuddiol i’r plentyn.
(2)
Rhaid i berson a benodir o dan yr adran hon ymweld â’r plentyn, ymgyfeillio ag ef a’i gynghori.
(3)
Y mae hawlogaeth gan berson a benodir o dan yr adran hon i adennill oddi wrth yr awdurdod penodi unrhyw dreuliau rhesymol a dynnir gan y person hwnnw at ddibenion ei swyddogaethau o dan yr adran hon.
(4)
Daw penodiad person fel ymwelydd yn unol â’r adran hon i ben—
(a)
os yw’r plentyn bellach wedi peidio â derbyn gofal gan yr awdurdod lleol,
(b)
os bydd y person yn ymddiswyddo drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r awdurdod penodi, neu
(c)
os bydd yr awdurdod yn rhoi hysbysiad ysgrifenedig i’r person ei fod wedi terfynu’r penodiad.
(5)
Nid yw dod â phenodiad o’r fath i ben yn effeithio ar unrhyw ddyletswydd o dan yr adran hon i wneud penodiad pellach.
(6)
Pan fo awdurdod lleol yn cynnig penodi ymwelydd ar gyfer plentyn o dan yr adran hon, ni chaniateir gwneud y penodiad—
(a)
os yw’r plentyn yn ei wrthwynebu, a
(b)
os yw’r awdurdod yn fodlon bod gan y plentyn ddealltwriaeth ddigonol i wneud gwrthwynebiad deallus.
(7)
Pan fo ymwelydd wedi cael ei benodi i’r plentyn o dan yr adran hon, rhaid i awdurdod lleol ddod â’r penodiad i ben—
(a)
os yw’r plentyn yn gwrthwynebu bod y penodiad yn parhau, a
(b)
os yw’r awdurdod yn fodlon bod gan y plentyn ddealltwriaeth ddigonol i wneud gwrthwynebiad deallus.
(8)
Os yw’r awdurdod lleol yn rhoi effaith i wrthwynebiad plentyn o dan is-adran (6) neu (7) a’r gwrthwynebiad yw bod unrhyw un yn cael ei benodi’n ymwelydd ar ei gyfer, nid oes yn rhaid i’r awdurdod gynnig penodi person arall o dan is-adran (1) hyd nes y bydd y gwrthwynebiad wedi ei dynnu yn ôl.
(9)
Caiff rheoliadau wneud darpariaeth o ran yr amgylchiadau lle y mae person i’w ystyried at ddibenion yr adran hon fel un sy’n annibynnol ar yr awdurdod penodi.