RHAN 6PLANT SY’N DERBYN GOFAL A PHLANT SY’N CAEL EU LLETYA

Cyswllt ac ymweliadau

97Dyletswydd awdurdod lleol i sicrhau ymweliadau a chyswllt â phlant sy’n derbyn gofal a phlant eraill

(1)

Mae’r adran hon yn gymwys i—

(a)

plentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol;

(b)

plentyn a fu’n derbyn gofal gan awdurdod lleol ond nid yw bellach yn derbyn gofal gan yr awdurdod o ganlyniad i amgylchiadau a bennwyd mewn rheoliadau;

(c)

plentyn sy’n dod o fewn categori a bennir mewn rheoliadau.

(2)

Rhaid i reoliadau sy’n pennu categori at ddiben is-adran (1)(c) hefyd bennu’r awdurdod lleol y mae’n rhaid iddo gyflawni’r dyletswyddau a osodir gan neu o dan yr adran hon mewn perthynas â phlentyn sy’n dod o fewn y categori penodedig.

(3)

Rhaid i awdurdod lleol—

(a)

sicrhau bod person sy’n cynrychioli’r awdurdod (“cynrychiolydd”) yn ymweld â phlentyn y mae’r adran hon yn gymwys iddo;

(b)

trefnu bod cyngor a chymorth arall priodol ar gael i blentyn y mae’r adran hon yn gymwys iddo.

(4)

O ran y dyletswyddau a osodwyd gan is-adran (3)—

(a)

maent i’w cyflawni yn unol ag unrhyw reoliadau a wneir at ddibenion yr adran hon;

(b)

maent yn ddarostyngedig i unrhyw ofyniad a osodir gan neu o dan ddeddfiad sy’n gymwys i’r man lle y mae’r plentyn y mae’r adran hon yn gymwys iddo yn cael ei letya.

(5)

Caiff rheoliadau o dan yr adran hon at ddibenion is-adran (4)(a) wneud darpariaeth am—

(a)

amlder yr ymweliadau;

(b)

yr amgylchiadau pan fo’n rhaid i gynrychiolydd ymweld â’r plentyn y mae’r adran hon yn gymwys iddo;

(c)

swyddogaethau cynrychiolydd.

(6)

Wrth ddewis cynrychiolydd, rhaid i awdurdod lleol fodloni ei hun bod gan y person a ddewiswyd y sgiliau a’r profiad angenrheidiol i gyflawni swyddogaethau cynrychiolydd.