xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 6LL+CPLANT SY’N DERBYN GOFAL A PHLANT SY’N CAEL EU LLETYA

Cyswllt ac ymweliadauLL+C

96Ymweliadau’r teulu â’r plant neu ymweliadau â’r teulu gan blant: treuliauLL+C

(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)pan fo plentyn yn derbyn gofal gan awdurdod lleol, a

(b)pan fo’r amodau a grybwyllir yn is-adran (4) wedi eu bodloni.

(2)Caiff yr awdurdod wneud taliadau mewn perthynas â theithio, cynhaliaeth neu dreuliau eraill a dynnir gan y personau canlynol wrth ymweld â’r plentyn—

(a)rhiant i’r plentyn,

(b)unrhyw berson nad yw’n rhiant i’r plentyn ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn, neu

(c)unrhyw berthynas, ffrind neu berson arall sy’n gysylltiedig â’r plentyn.

(3)Caiff yr awdurdod wneud taliadau i’r plentyn, neu i unrhyw berson ar ran y plentyn, mewn cysylltiad â theithio, cynhaliaeth neu dreuliau eraill a dynnir gan y plentyn neu ar ei ran wrth iddo ymweld â’r personau a grybwyllwyd ym mharagraffau (a) i (c) o is-adran (2).

(4)Yr amodau yw—

(a)ei bod yn ymddangos i’r awdurdod na fyddai’n bosib cynnal yr ymweliad o dan sylw fel arall heb galedi ariannol gormodol, a

(b)bod yr amgylchiadau yn cyfiawnhau gwneud y taliadau.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 96 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I2A. 96 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)