RHAN 6PLANT SY’N DERBYN GOFAL A PHLANT SY’N CAEL EU LLETYA

Cyswllt ac ymweliadau

96Ymweliadau’r teulu â’r plant neu ymweliadau â’r teulu gan blant: treuliau

(1)

Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)

pan fo plentyn yn derbyn gofal gan awdurdod lleol, a

(b)

pan fo’r amodau a grybwyllir yn is-adran (4) wedi eu bodloni.

(2)

Caiff yr awdurdod wneud taliadau mewn perthynas â theithio, cynhaliaeth neu dreuliau eraill a dynnir gan y personau canlynol wrth ymweld â’r plentyn—

(a)

rhiant i’r plentyn,

(b)

unrhyw berson nad yw’n rhiant i’r plentyn ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn, neu

(c)

unrhyw berthynas, ffrind neu berson arall sy’n gysylltiedig â’r plentyn.

(3)

Caiff yr awdurdod wneud taliadau i’r plentyn, neu i unrhyw berson ar ran y plentyn, mewn cysylltiad â theithio, cynhaliaeth neu dreuliau eraill a dynnir gan y plentyn neu ar ei ran wrth iddo ymweld â’r personau a grybwyllwyd ym mharagraffau (a) i (c) o is-adran (2).

(4)

Yr amodau yw—

(a)

ei bod yn ymddangos i’r awdurdod na fyddai’n bosib cynnal yr ymweliad o dan sylw fel arall heb galedi ariannol gormodol, a

(b)

bod yr amgylchiadau yn cyfiawnhau gwneud y taliadau.