RHAN 6PLANT SY’N DERBYN GOFAL A PHLANT SY’N CAEL EU LLETYA
Cyswllt ac ymweliadau
95Hyrwyddo a chynnal cyswllt rhwng plentyn a theulu
(1)
Pan fo plentyn yn derbyn gofal gan awdurdod lleol, rhaid i’r awdurdod, oni bai nad yw hynny’n rhesymol ymarferol neu yn gyson â llesiant y plentyn, hyrwyddo cyswllt rhwng y plentyn a—
(a)
rhieni’r plentyn,
(b)
unrhyw berson nad yw’n rhiant i’r plentyn ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn, ac
(c)
unrhyw berthynas, ffrind neu unrhyw berson arall sy’n gysylltiedig â’r plentyn.
(2)
Pan fo plentyn yn derbyn gofal gan awdurdod lleol, rhaid i’r awdurdod lleol gymryd unrhyw gamau sy’n rhesymol ymarferol i sicrhau bod y personau canlynol yn cael eu hysbysu’n rheolaidd am y man lle y mae’r plentyn yn cael ei letya—
(a)
rhieni’r plentyn;
(b)
unrhyw berson nad yw’n rhiant i’r plentyn ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn.
(3)
Rhaid i bob person a grybwyllwyd yn is-adran (2)(a) neu (b) sicrhau bod yr awdurdod yn cael ei hysbysu’n rheolaidd am ei gyfeiriad.
(4)
Pan fo awdurdod lleol (“yr awdurdod derbyn”) yn cymryd drosodd y gwaith o ddarparu llety i blentyn F1oddi wrth awdurdod lleol neu awdurdod lleol yn Lloegr o dan adran 76 (“yr awdurdod trosglwyddo”)—
(a)
rhaid i’r awdurdod derbyn (pan fo hynny’n rhesymol ymarferol) hysbysu—
(i)
rhieni’r plentyn, a
(ii)
unrhyw berson nad yw’n rhiant i’r plentyn ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn,
(b)
mae is-adran (2) yn gymwys i’r awdurdod trosglwyddo, yn ogystal â’r awdurdod derbyn, hyd nes y bydd o leiaf un o’r personau a grybwyllwyd ym mharagraff (a) neu (b) o’r is-adran honno wedi cael ei hysbysu am y newid, ac
(c)
nid yw is-adran (3) yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson hysbysu’r awdurdod derbyn am ei gyfeiriad hyd nes y bydd y person hwnnw wedi cael ei hysbysu o dan baragraff (a).
(5)
Nid oes dim yn yr adran hon sy’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol hysbysu person am y man lle y mae plentyn, ac eithrio plentyn o dan 16 oed sy’n cael ei letya o dan adran 76, os oes gan yr awdurdod sail resymol dros gredu y byddai hysbysu’r person yn peryglu llesiant y plentyn.
(6)
Mae unrhyw berson sy’n methu â chydymffurfio, heb esgus rhesymol, ag is-adran (3) yn euog o drosedd ac yn atebol o’i gollfarnu’n ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 2 ar y raddfa safonol.