xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 6LL+CPLANT SY’N DERBYN GOFAL A PHLANT SY’N CAEL EU LLETYA

[F1Rheoleiddio swyddogaethau awdurdodau lleol sy’n ymwneud â phlant sy’n derbyn gofal a phlant sy’n cael eu lletyaLL+C

94BY drosedd o dorri rheoliadau o dan adran 94ALL+C

(1)Caiff rheoliadau ddarparu ei bod yn drosedd i berson dorri darpariaeth benodedig mewn rheoliadau a wneir o dan adran 94A neu fethu â chydymffurfio â darpariaeth o’r fath.

(2)Mae person sy’n euog o drosedd o dan reoliadau a wneir o dan is-adran (1) yn agored—

(a)ar gollfarn ddiannod, i ddirwy, neu i’w garcharu am dymor nad yw’n hwy na 6 mis, neu i’r ddau;

(b)ar gollfarn ar dditiad, i ddirwy, neu i’w garcharu am dymor nad yw’n hwy na 2 flynedd, neu i’r ddau.

(3)Mae adrannau 53 (troseddau gan gyrff corfforaethol), 54 (troseddau gan gyrff anghorfforedig) a 55 (achosion am droseddau) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 yn gymwys i drosedd o dan reoliadau a wneir o dan is-adran (1) fel y maent yn gymwys i droseddau o dan Ran 1 o’r Ddeddf honno.]