RHAN 6PLANT SY’N DERBYN GOFAL A PHLANT SY’N CAEL EU LLETYA

Rheoliadau ynghylch plant sy’n derbyn gofal

93Rheoliadau sy’n darparu ar gyfer cymeradwyo rhieni maeth awdurdod lleol

(1)

Caiff rheoliadau o dan adran 87 wneud darpariaeth, er enghraifft—

(a)

ar gyfer sicrhau nad yw plentyn yn cael ei leoli gyda rhiant maeth awdurdod lleol F1neu bersonau eraill oni bai bod y person hwnnw wedi cael ei gymeradwyo am y tro fel rhiant maeth awdurdod lleol gan yr awdurdod lleol a bennir;

(b)

sy’n sefydlu gweithdrefn sy’n caniatáu i unrhyw berson, y gwnaed dyfarniad cymhwysol mewn cysylltiad ag ef, wneud cais o dan y weithdrefn honno am adolygiad o’r dyfarniad hwnnw gan banel a benodwyd gan Weinidogion Cymru.

(2)

Mae dyfarniad yn ddyfarniad cymhwysol—

(a)

os yw’n ymwneud â chwestiwn ynghylch a ddylai person gael ei gymeradwyo, neu a ddylai barhau i gael ei gymeradwyo, fel rhiant maeth awdurdod lleol, a

(b)

os yw o ddisgrifiad a bennir.

(3)

Caiff rheoliadau a wneir o dan is-adran (1)(b) gynnwys darpariaeth o ran—

(a)

dyletswyddau a phwerau panel;

(b)

gweinyddiaeth a gweithdrefnau panel;

(c)

penodi aelodau panel (gan gynnwys nifer, neu unrhyw gyfyngiad ar nifer, yr aelodau y caniateir i’w penodi, ac unrhyw amodau ar gyfer eu penodi);

(d)

talu ffioedd i aelodau panel;

(e)

dyletswyddau unrhyw berson mewn cysylltiad ag adolygiad a gynhelir o dan y rheoliadau;

(f)

monitro unrhyw adolygiadau o’r fath.

(4)

Caiff rheoliadau a wneir yn rhinwedd is-adran (3)(e) osod dyletswydd i dalu i Weinidogion Cymru y cyfryw swm y mae Gweinidogion Cymru yn ei ddyfarnu; ond ni chaniateir gosod dyletswydd o’r fath ar berson sydd wedi gwneud cais i gael adolygiad o ddyfarniad cymhwysol.

(5)

Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau, drwy gymryd un flwyddyn ariannol gydag un arall, nad yw agregiad y symiau sy’n dod yn daladwy iddynt o dan reoliadau a wneir yn rhinwedd is-adran (4) y tu hwnt i’r gost o gyflawni eu swyddogaethau adolygu annibynnol.

(6)

Caiff Gweinidogion Cymru wneud trefniant gyda sefydliad lle y bydd y sefydliad hwnnw’n cyflawni swyddogaethau adolygu annibynnol ar eu rhan.

(7)

Os yw Gweinidogion Cymru yn gwneud trefniant o’r fath gyda sefydliad, rhaid i’r sefydliad gyflawni ei swyddogaethau o dan y trefniant yn unol ag unrhyw gyfarwyddyd cyffredinol neu arbennig a roddir gan Weinidogion Cymru.

(8)

Caiff y trefniant gynnwys darpariaeth bod y sefydliad yn derbyn taliadau gan Weinidogion Cymru.

(9)

Rhaid i daliadau a wneir gan Weinidogion Cymru yn unol â darpariaeth o’r fath gael eu cymryd i ystyriaeth wrth benderfynu (at ddiben is-adran (5)) y gost i Weinidogion Cymru o gyflawni eu swyddogaethau adolygu annibynnol.

(10)

O ran cyfarwyddyd o dan is-adran (7)—

(a)

rhaid iddo fod yn ysgrifenedig;

(b)

caniateir iddo gael ei amrywio neu ei ddirymu drwy gyfarwyddyd diweddarach.

(11)

Yn yr adran hon—

ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw cyfnod o ddeuddeng mis sy’n dod i ben ar 31 Mawrth;

mae “sefydliad” (“organisation”) yn cynnwys yr Ysgrifennydd Gwladol, corff cyhoeddus a sefydliad preifat neu wirfoddol;

ystyr “swyddogaeth adolygu annibynnol” (“independent review function”) yw swyddogaeth a roddir neu a osodir ar Weinidogion Cymru drwy reoliadau a wneir yn rhinwedd is-adran (1)(b).