xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 6LL+CPLANT SY’N DERBYN GOFAL A PHLANT SY’N CAEL EU LLETYA

Rheoliadau ynghylch plant sy’n derbyn gofalLL+C

91Rheoliadau ynghylch osgoi amharu ar addysgLL+C

(1)Caiff rheoliadau o dan adran 87 osod, er enghraifft, gofynion y mae’n rhaid i awdurdod lleol gydymffurfio â hwy cyn gwneud unrhyw benderfyniad sy’n ymwneud â lleoliad plentyn [F1perthnasol] [F2os yw yng nghyfnod allweddol pedwar].

[F3(1A)Yn is-adran (1), ystyr “plentyn perthnasol” yw plentyn—

(a)sy’n ddisgybl mewn ysgol a gynhelir,

(b)sydd wedi cwblhau’r flwyddyn ysgol y cyrhaeddodd y rhan fwyaf o’r disgyblion yn nosbarth y plentyn 14 oed ynddi, ac

(c)sy’n dal i fod o’r oedran ysgol gorfodol.]

(2)[F4Mae plentyn “yng nghyfnod allweddol pedwar” os yw’n ddisgybl yng nghyfnod allweddol pedwar (“the fourth key stage”) at ddibenion Rhan 7 o Ddeddf Addysg 2002 (gweler adran 103 o’r Ddeddf honno).]

[F4Yn is-adran (1A)—

(a)mae i “disgybl”, “blwyddyn ysgol” ac “oedran ysgol gorfodol” yr ystyr a roddir i “pupil”, “school year” a “compulsory school age” yn Neddf Addysg 1996;

(b)mae i “ysgol a gynhelir” yr ystyr a roddir gan adran 79 o Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021;

(c)ystyr “dosbarth y plentyn” yw—

(i)y grŵp addysgu yr addysgir y plentyn ynddo yn rheolaidd yn yr ysgol, neu

(ii)pan fo dau neu ragor o grwpiau o’r fath, y grŵp a ddynodir gan bennaeth ysgol y plentyn.]

Diwygiadau Testunol

F2Geiriau yn a. 91(1) wedi eu hepgor (1.9.2022 at ddibenion penodedig, 1.9.2023 at ddibenion penodedig) yn rhinwedd Rheoliadau Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol) (Deddfwriaeth Sylfaenol) 2022 (O.S. 2022/744), rhl. 1(3), Atod. 2 para. 17(2)(a)(ii)

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 91 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I2A. 91 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)