RHAN 6PLANT SY’N DERBYN GOFAL A PHLANT SY’N CAEL EU LLETYA
Rheoliadau ynghylch plant sy’n derbyn gofal
91Rheoliadau ynghylch osgoi amharu ar addysg
(1)
(1A)
Yn is-adran (1), ystyr “plentyn perthnasol” yw plentyn—
(a)
sy’n ddisgybl mewn ysgol a gynhelir,
(b)
sydd wedi cwblhau’r flwyddyn ysgol y cyrhaeddodd y rhan fwyaf o’r disgyblion yn nosbarth y plentyn 14 oed ynddi, ac
(c)
sy’n dal i fod o’r oedran ysgol gorfodol.
(2)
F3Mae plentyn “yng nghyfnod allweddol pedwar” os yw’n ddisgybl yng nghyfnod allweddol pedwar (“the fourth key stage”) at ddibenion Rhan 7 o Ddeddf Addysg 2002 (gweler adran 103 o’r Ddeddf honno).
F3Yn is-adran (1A)—
(a)
mae i “disgybl”, “blwyddyn ysgol” ac “oedran ysgol gorfodol” yr ystyr a roddir i “pupil”, “school year” a “compulsory school age” yn Neddf Addysg 1996;
(b)
mae i “ysgol a gynhelir” yr ystyr a roddir gan adran 79 o Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021;
(c)
ystyr “dosbarth y plentyn” yw—
(i)
y grŵp addysgu yr addysgir y plentyn ynddo yn rheolaidd yn yr ysgol, neu
(ii)
pan fo dau neu ragor o grwpiau o’r fath, y grŵp a ddynodir gan bennaeth ysgol y plentyn.