RHAN 6PLANT SY’N DERBYN GOFAL A PHLANT SY’N CAEL EU LLETYA

Rheoliadau ynghylch plant sy’n derbyn gofal

91Rheoliadau ynghylch osgoi amharu ar addysg

(1)

Caiff rheoliadau o dan adran 87 osod, er enghraifft, gofynion y mae’n rhaid i awdurdod lleol gydymffurfio â hwy cyn gwneud unrhyw benderfyniad sy’n ymwneud â lleoliad plentyn os yw yng nghyfnod allweddol pedwar.

(2)

Mae plentyn “yng nghyfnod allweddol pedwar” os yw’n ddisgybl yng nghyfnod allweddol pedwar (“the fourth key stage”) at ddibenion Rhan 7 o Ddeddf Addysg 2002 (gweler adran 103 o’r Ddeddf honno).