RHAN 2SWYDDOGAETHAU CYFFREDINOL
Canlyniadau llesiant
9Pŵer i ddyroddi cod ar gyfer helpu i sicrhau’r canlyniadau
(1)
Rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi, ac o bryd i’w gilydd ddiwygio, cod i helpu i sicrhau’r canlyniadau a bennir yn y datganiad o dan adran 8.
(2)
Caiff y cod—
(a)
rhoi canllawiau i unrhyw berson sy’n darparu gofal a chymorth (neu, yn achos gofalwyr, cymorth) o’r math sy’n cael ei ddisgrifio yn adran 8(3), a
(b)
gosod gofynion ar awdurdodau lleol mewn perthynas â darpariaeth o’r fath honno.
(3)
Mae’r canlynol yn enghreifftiau o’r materion y gellir eu nodi yn y cod—
(a)
safonau (“safonau ansawdd”) sydd i’w sicrhau wrth ddarparu gofal a chymorth (neu, yn achos gofalwyr, cymorth);
(b)
mesurau (“mesurau perfformiad”) y gellir asesu perfformiad o ran sicrhau’r safonau ansawdd hynny drwy gyfeirio atynt;
(c)
targedau (“targedau perfformiad”) sydd i’w bodloni mewn perthynas â’r mesurau perfformiad hynny;
(d)
camau sydd i’w cymryd mewn cysylltiad â’r safonau, y mesurau a’r targedau hynny.
(4)
Caiff y cod bennu—
(a)
gwahanol safonau ansawdd ar gyfer—
(i)
gwahanol gategorïau o ofal a chymorth (neu, yn achos gofalwyr, cymorth);
(ii)
gwahanol gategorïau o bobl y mae arnynt angen gofal a chymorth (neu, yn achos gofalwyr, cymorth);
(b)
gwahanol fesurau perfformiad neu dargedau perfformiad ar gyfer—
(i)
gwahanol gategorïau o ofal a chymorth (neu, yn achos gofalwyr, cymorth);
(ii)
gwahanol gategorïau o bobl sy’n darparu gofal a chymorth (neu, yn achos gofalwyr, cymorth);
(c)
gwahanol safonau ansawdd, mesurau perfformiad neu dargedau perfformiad i fod yn gymwys ar wahanol adegau.
(5)
Rhaid i Weinidogion Cymru—
(a)
cyhoeddi ar eu gwefan y cod sydd mewn grym am y tro, a
(b)
peri i godau nad ydynt bellach mewn grym fod ar gael (ar eu gwefan neu fel arall) i’r cyhoedd.