RHAN 6PLANT SY’N DERBYN GOFAL A PHLANT SY’N CAEL EU LLETYA

Dyletswyddau awdurdodau lleol mewn perthynas â’r plant sy’n derbyn gofal

F286Cartrefi F1... sy’n cael eu darparu, eu cyfarparu a’u cynnal gan Weinidogion Cymru

Pan fo awdurdod lleol yn lleoli plentyn y mae’n gofalu amdano mewn cartref F1 ... y mae Gweinidogion Cymru neu’r Ysgrifennydd Gwladol yn ei ddarparu, ei gyfarparu ac yn ei gynnal o dan adran 82(5) o Ddeddf Plant 1989, rhaid iddo wneud hynny ar y telerau a’r amodau a ddyfernir o bryd i’w gilydd gan Weinidogion Cymru neu’r Ysgrifennydd Gwladol (yn ôl y digwydd).