RHAN 6PLANT SY’N DERBYN GOFAL A PHLANT SY’N CAEL EU LLETYA
Dyletswyddau awdurdodau lleol mewn perthynas â’r plant sy’n derbyn gofal
84Rheoliadau ynghylch cynlluniau gofal a chymorth
Caiff rheoliadau o dan adran 83, er enghraifft—
(a)
ei gwneud yn ofynnol bod cynlluniau ar ffurf benodedig;
(b)
ei gwneud yn ofynnol bod cynlluniau yn cynnwys pethau penodedig;
(c)
gwneud darpariaeth ynghylch personau pellach y mae’n rhaid i awdurdod lleol eu cynnwys yn y broses o lunio, adolygu neu ddiwygio cynlluniau;
(d)
ei gwneud yn ofynnol bod cynlluniau’n cael eu llunio, eu hadolygu neu eu diwygio gan bersonau penodedig;
(e)
rhoi swyddogaethau i bersonau a bennir yn y rheoliadau mewn cysylltiad ag adolygu neu ddiwygio cynlluniau;
(f)
pennu personau y mae’n rhaid darparu copïau ysgrifenedig o gynllun ar eu cyfer (gan gynnwys, mewn achosion penodedig, darparu copïau heb gydsyniad y person y mae’r cynllun yn ymwneud ag ef);
(g)
pennu’r amgylchiadau pellach y mae’n rhaid adolygu’r cynlluniau odanynt.