83Cynlluniau gofal a chymorthLL+C
This section has no associated Explanatory Notes
(1)Pan fo plentyn yn dod yn un sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol, rhaid i unrhyw gynllun gofal a chymorth a lunnir o dan adran 54 mewn perthynas â’r plentyn hwnnw gael—
(a)ei adolygu, a
(b)ei gynnal o dan yr adran hon.
(2)Pan fo plentyn nad oes ganddo gynllun gofal a chymorth o dan adran 54 yn dod yn un sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol, rhaid i’r awdurdod lleol lunio a chynnal cynllun gofal a chymorth mewn perthynas â’r plentyn hwnnw.
[(2A)Rhaid i gynllun gofal a chymorth ar gyfer plentyn gynnwys cofnod o’r trefniadau a wneir i ddiwallu anghenion y plentyn mewn perthynas ag addysg a hyfforddiant (“cynllun addysg personol”).
(2B)Ond nid yw is-adran (2A) yn gymwys i blentyn os yw o fewn categori o blentyn sy’n derbyn gofal a ragnodir mewn rheoliadau, nad oes cynllun addysg personol i gael ei lunio ar ei gyfer.
(2C)Os—
(a)oes gan blentyn anghenion dysgu ychwanegol, a
(b)yw cynllun gofal a chymorth y plentyn yn cynnwys cynllun addysg personol,
rhaid cynnwys unrhyw gynllun datblygu unigol a gynhelir ar gyfer y plentyn o dan adran 19 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 yn y cynllun addysg personol.
(2D)At ddibenion is-adran (2C)—
(a)ystyr “plentyn” yw plentyn nad yw’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol (o fewn yr ystyr a roddir i “compulsory school age” gan adran 8 o Ddeddf Addysg 1996 (p. 56));
(b)mae i “anghenion dysgu ychwanegol” yr ystyr a roddir gan adran 2 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018.]
(3)Rhaid i awdurdod lleol barhau i adolygu’n gyson [y cynlluniau y mae’n eu cynnal o dan yr adran hon] [gynllun gofal a chymorth].
(4)Pan fo awdurdod lleol wedi ei fodloni bod amgylchiadau’r plentyn y mae [cynllun] [cynllun gofal a chymorth] yn ymwneud ag ef wedi newid mewn ffordd sy’n effeithio ar y cynllun, rhaid i’r awdurdod—
(a)gwneud unrhyw asesiadau y mae’n barnu eu bod yn briodol, a
(b)diwygio’r cynllun.
(5)[Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau Rhan 2 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018,] Rhaid i reoliadau wneud darpariaeth ynghylch—
(a)sut y mae [cynlluniau o dan yr adran hon] [cynlluniau gofal a chymorth] i’w paratoi;
(b)pa bethau y [mae’n rhaid i gynllun eu cynnwys] [mae cynllun gofal a chymorth i’w cynnwys (gan gynnwys pa bethau y mae cynllun addysg personol i’w cynnwys)];
(c)adolygu a diwygio [cynlluniau] [cynlluniau gofal a chymorth].
(6)Rhaid i reoliadau o dan is-adran (5)(c) bennu, yn benodol—
(a)y personau a gaiff ofyn am adolygiad o gynllun (ar eu rhan hwy eu hunain neu ar ran person arall);
(b)o dan ba amgylchiadau—
(i)y caiff awdurdod lleol wrthod cydymffurfio â chais am adolygiad o gynllun, a
(ii)na chaiff awdurdod lleol wrthod gwneud hynny.
(7)Wrth lunio, adolygu neu ddiwygio [cynllun o dan yr adran hon] [cynllun gofal a chymorth], rhaid i awdurdod lleol gynnwys y plentyn y mae’r cynllun yn ymwneud ag ef ac unrhyw berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn.
(8)Caiff yr awdurdod lleol—
(a)llunio, adolygu neu ddiwygio [cynllun o dan yr adran hon] [cynllun gofal a chymorth] yr un pryd ag y mae ef neu gorff arall yn llunio, adolygu neu ddiwygio dogfen arall yn achos y plentyn o dan sylw, a
(b)cynnwys y ddogfen arall yn y cynllun.
(9)Caniateir i unrhyw ran o [gynllun a gynhelir o dan yr adran hon] [gynllun gofal a chymorth] sy’n bodloni’r gofynion a osodir gan neu o dan adran 31A o Ddeddf Plant 1989 gael ei thrin at ddibenion y Ddeddf honno fel cynllun a lunnir o dan adran 31A o’r Ddeddf honno.
[(10)Mae cyfeiriadau yn is-adrannau (2A) i (9) at gynllun gofal a chymorth i’w dehongli fel cyfeiriadau at gynllun gofal a chymorth a lunnir neu a gynhelir o dan yr adran hon.]
Diwygiadau Testunol
Gwybodaeth Cychwyn