RHAN 6PLANT SY’N DERBYN GOFAL A PHLANT SY’N CAEL EU LLETYA
Dyletswyddau awdurdodau lleol mewn perthynas â’r plant sy’n derbyn gofal
83Cynlluniau gofal a chymorth
(1)
Pan fo plentyn yn dod yn un sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol, rhaid i unrhyw gynllun gofal a chymorth a lunnir o dan adran 54 mewn perthynas â’r plentyn hwnnw gael—
(a)
ei adolygu, a
(b)
ei gynnal o dan yr adran hon.
(2)
Pan fo plentyn nad oes ganddo gynllun gofal a chymorth o dan adran 54 yn dod yn un sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol, rhaid i’r awdurdod lleol lunio a chynnal cynllun gofal a chymorth mewn perthynas â’r plentyn hwnnw.
F1(2A)
Rhaid i gynllun gofal a chymorth ar gyfer plentyn gynnwys cofnod o’r trefniadau a wneir i ddiwallu anghenion y plentyn mewn perthynas ag addysg a hyfforddiant (“cynllun addysg personol”).
(2B)
Ond nid yw is-adran (2A) yn gymwys i blentyn os yw o fewn categori o blentyn sy’n derbyn gofal a ragnodir mewn rheoliadau, nad oes cynllun addysg personol i gael ei lunio ar ei gyfer.
(2C)
Os—
(a)
oes gan blentyn anghenion dysgu ychwanegol, a
(b)
yw cynllun gofal a chymorth y plentyn yn cynnwys cynllun addysg personol,
rhaid cynnwys unrhyw gynllun datblygu unigol a gynhelir ar gyfer y plentyn o dan adran 19 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 yn y cynllun addysg personol.
(2D)
At ddibenion is-adran (2C)—
(a)
ystyr “plentyn” yw plentyn nad yw’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol (o fewn yr ystyr a roddir i “compulsory school age” gan adran 8 o Ddeddf Addysg 1996 (p. 56));
(b)
mae i “anghenion dysgu ychwanegol” yr ystyr a roddir gan adran 2 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018.
(3)
(4)
Pan fo awdurdod lleol wedi ei fodloni bod amgylchiadau’r plentyn y mae F3cynllun F3cynllun gofal a chymorth yn ymwneud ag ef wedi newid mewn ffordd sy’n effeithio ar y cynllun, rhaid i’r awdurdod—
(a)
gwneud unrhyw asesiadau y mae’n barnu eu bod yn briodol, a
(b)
diwygio’r cynllun.
(5)
F4Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau Rhan 2 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018, Rhaid i reoliadau wneud darpariaeth ynghylch—
(b)
(6)
Rhaid i reoliadau o dan is-adran (5)(c) bennu, yn benodol—
(a)
y personau a gaiff ofyn am adolygiad o gynllun (ar eu rhan hwy eu hunain neu ar ran person arall);
(b)
o dan ba amgylchiadau—
(i)
y caiff awdurdod lleol wrthod cydymffurfio â chais am adolygiad o gynllun, a
(ii)
na chaiff awdurdod lleol wrthod gwneud hynny.
(7)
(8)
Caiff yr awdurdod lleol—
(a)
(b)
cynnwys y ddogfen arall yn y cynllun.
(9)
F11(10)
Mae cyfeiriadau yn is-adrannau (2A) i (9) at gynllun gofal a chymorth i’w dehongli fel cyfeiriadau at gynllun gofal a chymorth a lunnir neu a gynhelir o dan yr adran hon.