RHAN 6PLANT SY’N DERBYN GOFAL A PHLANT SY’N CAEL EU LLETYA
Dyletswyddau awdurdodau lleol mewn perthynas â’r plant sy’n derbyn gofal
83Cynlluniau gofal a chymorth
(1)
Pan fo plentyn yn dod yn un sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol, rhaid i unrhyw gynllun gofal a chymorth a lunnir o dan adran 54 mewn perthynas â’r plentyn hwnnw gael—
(a)
ei adolygu, a
(b)
ei gynnal o dan yr adran hon.
(2)
Pan fo plentyn nad oes ganddo gynllun gofal a chymorth o dan adran 54 yn dod yn un sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol, rhaid i’r awdurdod lleol lunio a chynnal cynllun gofal a chymorth mewn perthynas â’r plentyn hwnnw.
(3)
Rhaid i awdurdod lleol barhau i adolygu’n gyson y cynlluniau y mae’n eu cynnal o dan yr adran hon.
(4)
Pan fo awdurdod lleol wedi ei fodloni bod amgylchiadau’r plentyn y mae cynllun yn ymwneud ag ef wedi newid mewn ffordd sy’n effeithio ar y cynllun, rhaid i’r awdurdod—
(a)
gwneud unrhyw asesiadau y mae’n barnu eu bod yn briodol, a
(b)
diwygio’r cynllun.
(5)
Rhaid i reoliadau wneud darpariaeth ynghylch—
(a)
sut y mae cynlluniau o dan yr adran hon i’w paratoi;
(b)
pa bethau y mae’n rhaid i gynllun eu cynnwys;
(c)
adolygu a diwygio cynlluniau.
(6)
Rhaid i reoliadau o dan is-adran (5)(c) bennu, yn benodol—
(a)
y personau a gaiff ofyn am adolygiad o gynllun (ar eu rhan hwy eu hunain neu ar ran person arall);
(b)
o dan ba amgylchiadau—
(i)
y caiff awdurdod lleol wrthod cydymffurfio â chais am adolygiad o gynllun, a
(ii)
na chaiff awdurdod lleol wrthod gwneud hynny.
(7)
Wrth lunio, adolygu neu ddiwygio cynllun o dan yr adran hon, rhaid i awdurdod lleol gynnwys y plentyn y mae’r cynllun yn ymwneud ag ef ac unrhyw berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn.
(8)
Caiff yr awdurdod lleol—
(a)
llunio, adolygu neu ddiwygio cynllun o dan yr adran hon yr un pryd ag y mae ef neu gorff arall yn llunio, adolygu neu ddiwygio dogfen arall yn achos y plentyn o dan sylw, a
(b)
cynnwys y ddogfen arall yn y cynllun.
(9)
Caniateir i unrhyw ran o gynllun a gynhelir o dan yr adran hon sy’n bodloni’r gofynion a osodir gan neu o dan adran 31A o Ddeddf Plant 1989 gael ei thrin at ddibenion y Ddeddf honno fel cynllun a lunnir o dan adran 31A o’r Ddeddf honno.