xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Pan fo awdurdod lleol yn darparu llety i blentyn (“C”) ac eithrio yn unol â threfniadau sy’n dod o fewn adran 81(6)(d), ni chaniateir iddo wneud trefniadau o’r fath ar gyfer C oni bai ei fod wedi penderfynu gwneud hynny o ganlyniad i adolygiad o achos C a gwblhawyd yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 102 (adolygu achosion ac ymchwiliadau i sylwadau).
(2)Ond nid yw is-adran (1) yn rhwystro awdurdod lleol rhag gwneud trefniadau ar gyfer C o dan adran 81(6)(d) os yw wedi ei fodloni bod angen, er mwyn diogelu llesiant C—
(a)gwneud trefniadau o’r fath, a
(b)gwneud hynny ar frys.
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C1A. 82 wedi ei eithrio (6.4.2016) by S.I. 2012/2813, rhl. 2A(b) (fel y'i mewnosodwyd gan Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) (Is-ddeddfwriaeth) 2016 (O.S. 2016/211), rhl. 1(2), Atod. 3 para. 131)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 82 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)