RHAN 6PLANT SY’N DERBYN GOFAL A PHLANT SY’N CAEL EU LLETYA

Dyletswyddau awdurdodau lleol mewn perthynas â’r plant sy’n derbyn gofal

82Adolygu achos plentyn cyn gwneud trefniadau amgen o ran llety

(1)

Pan fo awdurdod lleol yn darparu llety i blentyn (“C”) ac eithrio yn unol â threfniadau sy’n dod o fewn adran 81(6)(d), ni chaniateir iddo wneud trefniadau o’r fath ar gyfer C oni bai ei fod wedi penderfynu gwneud hynny o ganlyniad i adolygiad o achos C a gwblhawyd yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 102 (adolygu achosion ac ymchwiliadau i sylwadau).

(2)

Ond nid yw is-adran (1) yn rhwystro awdurdod lleol rhag gwneud trefniadau ar gyfer C o dan adran 81(6)(d) os yw wedi ei fodloni bod angen, er mwyn diogelu llesiant C—

(a)

gwneud trefniadau o’r fath, a

(b)

gwneud hynny ar frys.