RHAN 6PLANT SY’N DERBYN GOFAL A PHLANT SY’N CAEL EU LLETYA
Dyletswyddau awdurdodau lleol mewn perthynas â’r plant sy’n derbyn gofal
81Y ffyrdd y mae plant sy’n derbyn gofal i’w lletya a’u cynnal
(1)
Mae’r adran hon yn gymwys pan fo awdurdod lleol yn gofalu am blentyn (“C”).
(2)
Rhaid i awdurdod lleol wneud trefniadau i C fyw gyda pherson sy’n dod o fewn is-adran (3), ond mae hyn yn ddarostyngedig i is-adrannau (4) ac (11).
(3)
Mae person (“P”) yn dod o fewn yr is-adran hon—
(a)
os P yw rhiant C,
(b)
os nad P yw rhiant C ond y mae ganddo gyfrifoldeb rhiant dros C, neu
(4)
Nid yw is-adran (2) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol wneud trefniadau o’r math a grybwyllwyd yn yr is-adran honno os byddai gwneud hynny—
(a)
yn anghyson â llesiant C, neu
(b)
yn gam na fyddai’n rhesymol ymarferol.
(5)
Os nad yw awdurdod lleol yn gallu gwneud trefniadau o dan is-adran (2), rhaid iddo leoli C yn y lleoliad mwyaf priodol sydd ar gael, yn ei farn ef (ond mae hyn yn ddarostyngedig i is-adran (11)).
(6)
Yn is-adran (5) ystyr “lleoliad” yw—
(a)
lleoliad gydag unigolyn sy’n berthynas, yn ffrind neu’n berson arall sy’n gysylltiedig ag C ac sydd hefyd yn rhiant maeth awdurdod lleol,
(b)
lleoliad gyda rhiant maeth awdurdod lleol nad yw’n dod o fewn paragraff (a),
(c)
lleoliad mewn cartref plant, neu
(d)
yn ddarostyngedig i adran 82, lleoliad yn unol â threfniadau eraill sy’n cydymffurfio ag unrhyw reoliadau a wneir at ddibenion yr adran hon.
(7)
Wrth benderfynu ar y lleoliad mwyaf priodol ar gyfer C o dan is-adran (5), rhaid i awdurdod lleol, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau eraill y Rhan hon (yn enwedig, i’w ddyletswyddau o dan adran 78)—
(a)
rhoi blaenoriaeth uwch i leoliad sy’n dod o fewn paragraff (a) o is-adran (6) na’r hyn a roddir i leoliadau sy’n dod o fewn paragraffau eraill yr is-adran honno,
(b)
cydymffurfio â gofynion is-adran (8), i’r graddau y mae hynny’n rhesymol ymarferol o dan holl amgylchiadau achos C, ac
(c)
cydymffurfio ag is-adran (9) oni bai nad yw hynny’n rhesymol ymarferol.
(8)
Rhaid i awdurdod lleol sicrhau—
(a)
bod y lleoliad yn caniatáu i C fyw gerllaw cartref C;
(b)
nad yw’r lleoliad yn amharu ar addysg na hyfforddiant C;
(c)
os oes gan C frawd neu chwaer sydd hefyd yn derbyn llety gan yr awdurdod lleol, bod y lleoliad yn galluogi i C fyw gyda’r brawd neu’r chwaer;
(d)
os yw C yn anabl, bod y llety a ddarperir yn addas i anghenion penodol C.
(9)
Rhaid i’r lleoliad, o ran ei natur, olygu bod llety’n cael ei ddarparu i C o fewn ardal yr awdurdod lleol.
(10)
Mae is-adran (11) yn gymwys pan—
(a)
bo’r awdurdod lleol wedi ei fodloni y dylai C gael ei leoli ar gyfer ei fabwysiadu ac yn bwriadu lleoli C i’w fabwysiadu gyda darpar fabwysiadydd penodol (“A”),
(b)
bo asiantaeth fabwysiadu wedi dyfarnu bod A yn addas i fabwysiadu plentyn, ac
(c)
na fo’r awdurdod lleol wedi ei awdurdodi i leoli C ar gyfer ei fabwysiadu.
(11)
Rhaid i’r awdurdod lleol leoli C gydag A oni bai y byddai’n fwy priodol yn ei farn—
(a)
i wneud trefniadau er mwyn i C fyw gyda pherson sy’n dod o fewn is-adran (3), neu
(b)
i leoli C mewn lleoliad o ddisgrifiad a grybwyllwyd yn is-adran (6).
(12)
At ddibenion is-adran (10)—
(a)
mae i “asiantaeth fabwysiadu” yr ystyr a roddir i “adoption agency” gan adran 2 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002;
(b)
nid yw awdurdod lleol wedi ei awdurdodi i leoli C ar gyfer ei fabwysiadu ond os yw wedi ei awdurdodi i wneud hynny o dan—
(i)
adran 19 o’r Ddeddf honno (lleoli plant gyda chydsyniad rhiant), neu
(ii)
gorchymyn lleoli a wneir o dan adran 21 o’r Ddeddf honno.
(13)
Caiff yr awdurdod lleol ddyfarnu—
(a)
telerau unrhyw drefniadau y mae’n eu gwneud o dan is-adran (2) mewn perthynas ag C (gan gynnwys telerau o ran talu), a
(b)
y telerau ar gyfer gosod C gyda rhiant maeth awdurdod lleol o dan is-adran (5) neu gyda darpar fabwysiadydd o dan is-adran (11) (gan gynnwys telerau o ran talu ond yn ddarostyngedig i unrhyw orchymyn a wneir o dan adran 49 o Ddeddf Plant 2004).