RHAN 6PLANT SY’N DERBYN GOFAL A PHLANT SY’N CAEL EU LLETYA
Dyletswyddau awdurdodau lleol mewn perthynas â’r plant sy’n derbyn gofal
78Prif ddyletswydd awdurdod lleol mewn perthynas â phlentyn sy’n derbyn gofal
(1)
Rhaid i awdurdod lleol sy’n gofalu am unrhyw blentyn—
(a)
diogelu a hyrwyddo llesiant y plentyn, a
(b)
defnyddio gwasanaethau sydd ar gael i blant, y mae eu rhieni eu hunain yn gofalu amdanynt, mewn modd sy’n ymddangos yn rhesymol i’r awdurdod yn achos y plentyn.
(2)
Mae dyletswydd awdurdod lleol o dan is-adran (1)(a) i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plentyn sy’n derbyn gofal ganddynt yn cynnwys, er enghraifft—
(a)
dyletswydd i hyrwyddo cyrhaeddiad addysgol y plentyn;
(b)
dyletswydd—
(i)
i asesu, o bryd i’w gilydd, a oes gan y plentyn anghenion am ofal a chymorth sy’n bodloni’r meini prawf cymhwystra a nodwyd o dan adran 32, a
(ii)
os oes ar y plentyn anghenion sy’n bodloni’r meini prawf cymhwystra, i ddiwallu, o leiaf, yr anghenion hynny.
(3)
Cyn gwneud unrhyw benderfyniad mewn cysylltiad â phlentyn y mae’n gofalu amdano, neu’n bwriadu gofalu amdano, rhaid i awdurdod lleol (yn ogystal â’r materion a nodir yn adrannau 6(2) a (4) a 7(2) (dyletswyddau hollgyffredinol eraill)), roi sylw i—
(a)
barn, dymuniadau a theimladau unrhyw berson y mae ei farn, ei ddymuniadau a’i deimladau yn berthnasol ym marn yr awdurdod;
(b)
argyhoeddiad crefyddol, tarddiad hiliol, a chefndir diwylliannol ac ieithyddol y plentyn.
(4)
Os yr ymddengys i awdurdod lleol ei bod yn angenrheidiol iddo, er mwyn amddiffyn aelodau o’r cyhoedd rhag niwed difrifol, arfer ei bwerau mewn cysylltiad â phlentyn y mae’n gofalu amdano mewn modd nad yw efallai yn gyson â’i ddyletswyddau o dan yr adran hon neu adran 6, caiff wneud hynny.