xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Rhaid i awdurdod lleol wneud darpariaeth ar gyfer derbyn a rhoi llety i blant sy’n cael eu symud o’u cartrefi neu sy’n cael eu cadw oddi yno o dan Ran 5 o Ddeddf Plant 1989.
(2)Rhaid i awdurdod lleol dderbyn plant, a darparu llety i blant—
(a)sy’n cael eu hamddiffyn gan yr heddlu ac y gofynnir iddo eu derbyn o dan adran 46(3)(f) o Ddeddf Plant 1989;
(b)y gofynnir iddo eu derbyn o dan adran 38(6) o Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984;
(c)os yr awdurdod lleol yw’r awdurdod dynodedig mewn cysylltiad â hwy a bod y plant hynny—
(i)wedi eu remandio i lety a ddarperir gan neu ar ran awdurdod lleol yn rhinwedd [F1paragraff 5 o Atodlen 4 neu baragraff 7 o Atodlen 5 i'r Cod Dedfrydu] (torri etc gorchmynion atgyfeirio a gorchmynion gwneud iawn);
(ii)wedi eu remandio i lety a ddarperir gan neu ar ran awdurdod lleol yn rhinwedd [F2paragraff 25 o Atodlen 7 i'r Cod hwnnw] (torri etc gorchmynion adsefydlu ieuenctid);
(iii)wedi eu remandio i lety a ddarperir gan neu ar ran awdurdod lleol yn rhinwedd paragraff 10 o’r Atodlen i Ddeddf Troseddau Stryd 1959 (torri gorchmynion o dan adran 1(2A) o’r Ddeddf honno);
(iv)yn destun gorchymyn adsefydlu ieuenctid sy’n gosod gofyniad preswylio awdurdod lleol neu yn destun gorchymyn adsefydlu ieuenctid â maethu.
[F3(3)Yn is-adran (2)—
mae i “gofyniad preswylio awdurdod lleol” (“local authority residence requirement”) yr ystyr a roddir gan baragraff 24 o Atodlen 6 i'r Cod Dedfrydu;
mae i “gorchymyn adsefydlu ieuenctid” (“youth rehabilitation order”) yr ystyr a roddir gan adran 173 o'r Cod hwnnw;
mae i “gorchymyn adsefydlu ieuenctid â maethu” (“youth rehabilitation order with fostering”) yr ystyr a roddir gan adran 176 o'r Cod hwnnw.”]
(4)Mae is-adran (5) yn gymwys—
(a) pan fo plentyn—
(i)wedi ei symud o dan Ran 5 o Ddeddf Plant 1989, neu
(ii)wedi ei gadw’n gaeth o dan adran 38 o Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984, a
(b)pan nad yw’r plentyn yn cael llety a ddarperir—
(i)gan awdurdod lleol [F4neu awdurdod lleol yn Lloegr], neu
(ii)mewn ysbyty a freiniwyd yng Ngweinidogion Cymru, Ymddiriedolaeth GIG, Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG neu’r Ysgrifennydd Gwladol, neu sydd fel arall wedi ei roi ar gael yn unol â threfniadau a wnaed gan Fwrdd Iechyd Lleol, Ymddiriedolaeth GIG, Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG, Gweinidogion Cymru, yr Ysgrifennydd Gwladol, [F5GIG Lloegr] neu [F6fwrdd gofal integredig] .
(5)Gellir adennill unrhyw gostau rhesymol a dynnwyd wrth roi llety i’r plentyn oddi wrth yr awdurdod lleol [F7neu’r awdurdod lleol yn Lloegr] y mae’r plentyn yn preswylio fel arfer yn ei ardal.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn a. 77(2)(c)(i) wedi eu hamnewid (1.12.2020) gan Sentencing Act 2020 (c. 17), a. 416(1), Atod. 24 para. 303(3)(a) (ynghyd ag Atod. 27); O.S. 2020/1236, rhl. 2
F2Geiriau yn a. 77(2)(c)(ii) wedi eu hamnewid (1.12.2020) gan Sentencing Act 2020 (c. 17), a. 416(1), Atod. 24 para. 303(3)(b) (ynghyd ag Atod. 27); O.S. 2020/1236, rhl. 2
F3A. 77(3) wedi ei amnewid (1.12.2020) gan Sentencing Act 2020 (c. 17), a. 416(1), Atod. 24 para. 303(5) (ynghyd ag Atod. 27); O.S. 2020/1236, rhl. 2
F4Geiriau yn a. 77(4)(b)(i) wedi eu mewnosod (6.4.2016) gan Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016 (O.S. 2016/413), rhlau. 2(1), 300(a)
F5Geiriau yn a. 77(4)(b)(ii) wedi eu hamnewid (1.7.2022) gan Health and Care Act 2022 (c. 31), a. 186(6), Atod. 1 para. 26(b); O.S. 2022/734, rhl. 2(a), Atod. (ynghyd â rhlau. 13, 29, 30)
F6Geiriau yn a. 77(4)(b)(ii) wedi eu hamnewid (1.7.2022) gan Health and Care Act 2022 (c. 31), a. 186(6), Atod. 4 para. 220(b); O.S. 2022/734, rhl. 2(a), Atod. (ynghyd â rhlau. 13, 29, 30)
F7Geiriau yn a. 77(5) wedi eu mewnosod (6.4.2016) gan Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016 (O.S. 2016/413), rhlau. 2(1), 300(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 77 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)