RHAN 6PLANT SY’N DERBYN GOFAL A PHLANT SY’N CAEL EU LLETYA
Dyletswyddau lletya
77Llety i blant sy’n cael eu hamddiffyn gan yr heddlu, neu sydd o dan gadwad neu ar remánd etc
(1)
Rhaid i awdurdod lleol wneud darpariaeth ar gyfer derbyn a rhoi llety i blant sy’n cael eu symud o’u cartrefi neu sy’n cael eu cadw oddi yno o dan Ran 5 o Ddeddf Plant 1989.
(2)
Rhaid i awdurdod lleol dderbyn plant, a darparu llety i blant—
(a)
sy’n cael eu hamddiffyn gan yr heddlu ac y gofynnir iddo eu derbyn o dan adran 46(3)(f) o Ddeddf Plant 1989;
(b)
y gofynnir iddo eu derbyn o dan adran 38(6) o Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984;
(c)
os yr awdurdod lleol yw’r awdurdod dynodedig mewn cysylltiad â hwy a bod y plant hynny—
(i)
wedi eu remandio i lety a ddarperir gan neu ar ran awdurdod lleol yn rhinwedd F1paragraff 5 o Atodlen 4 neu baragraff 7 o Atodlen 5 i'r Cod Dedfrydu (torri etc gorchmynion atgyfeirio a gorchmynion gwneud iawn);
(ii)
wedi eu remandio i lety a ddarperir gan neu ar ran awdurdod lleol yn rhinwedd F2paragraff 25 o Atodlen 7 i'r Cod hwnnw (torri etc gorchmynion adsefydlu ieuenctid);
(iii)
wedi eu remandio i lety a ddarperir gan neu ar ran awdurdod lleol yn rhinwedd paragraff 10 o’r Atodlen i Ddeddf Troseddau Stryd 1959 (torri gorchmynion o dan adran 1(2A) o’r Ddeddf honno);
(iv)
yn destun gorchymyn adsefydlu ieuenctid sy’n gosod gofyniad preswylio awdurdod lleol neu yn destun gorchymyn adsefydlu ieuenctid â maethu.
F3(3)
Yn is-adran (2)—
mae i “gofyniad preswylio awdurdod lleol” (“local authority residence requirement”) yr ystyr a roddir gan baragraff 24 o Atodlen 6 i'r Cod Dedfrydu;
mae i “gorchymyn adsefydlu ieuenctid” (“youth rehabilitation order”) yr ystyr a roddir gan adran 173 o'r Cod hwnnw;
mae i “gorchymyn adsefydlu ieuenctid â maethu” (“youth rehabilitation order with fostering”) yr ystyr a roddir gan adran 176 o'r Cod hwnnw.”
(4)
Mae is-adran (5) yn gymwys—
(a)
pan fo plentyn—
(i)
wedi ei symud o dan Ran 5 o Ddeddf Plant 1989, neu
(ii)
wedi ei gadw’n gaeth o dan adran 38 o Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984, a
(b)
pan nad yw’r plentyn yn cael llety a ddarperir—
(i)
gan awdurdod lleol F4neu awdurdod lleol yn Lloegr, neu
(ii)
mewn ysbyty a freiniwyd yng Ngweinidogion Cymru, Ymddiriedolaeth GIG, Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG neu’r Ysgrifennydd Gwladol, neu sydd fel arall wedi ei roi ar gael yn unol â threfniadau a wnaed gan Fwrdd Iechyd Lleol, Ymddiriedolaeth GIG, Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG, Gweinidogion Cymru, yr Ysgrifennydd Gwladol, Bwrdd Comisiynu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol neu grŵp comisiynu clinigol.
(5)
Gellir adennill unrhyw gostau rhesymol a dynnwyd wrth roi llety i’r plentyn oddi wrth yr awdurdod lleol F5neu’r awdurdod lleol yn Lloegr y mae’r plentyn yn preswylio fel arfer yn ei ardal.