xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Rhaid i awdurdod lleol wneud darpariaeth ar gyfer derbyn a rhoi llety i blant sy’n cael eu symud o’u cartrefi neu sy’n cael eu cadw oddi yno o dan Ran 5 o Ddeddf Plant 1989.
(2)Rhaid i awdurdod lleol dderbyn plant, a darparu llety i blant—
(a)sy’n cael eu hamddiffyn gan yr heddlu ac y gofynnir iddo eu derbyn o dan adran 46(3)(f) o Ddeddf Plant 1989;
(b)y gofynnir iddo eu derbyn o dan adran 38(6) o Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984;
(c)os yr awdurdod lleol yw’r awdurdod dynodedig mewn cysylltiad â hwy a bod y plant hynny—
(i)wedi eu remandio i lety a ddarperir gan neu ar ran awdurdod lleol yn rhinwedd paragraff 4 o Atodlen 1 neu baragraff 6 o Atodlen 8 i Ddeddf Pwerau Llysoedd Troseddol (Dedfrydu) 2000 (torri etc gorchmynion atgyfeirio a gorchmynion gwneud iawn);
(ii)wedi eu remandio i lety a ddarperir gan neu ar ran awdurdod lleol yn rhinwedd paragraff 21 o Atodlen 2 i Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Mewnfudo 2008 (torri etc gorchmynion adsefydlu ieuenctid);
(iii)wedi eu remandio i lety a ddarperir gan neu ar ran awdurdod lleol yn rhinwedd paragraff 10 o’r Atodlen i Ddeddf Troseddau Stryd 1959 (torri gorchmynion o dan adran 1(2A) o’r Ddeddf honno);
(iv)yn destun gorchymyn adsefydlu ieuenctid sy’n gosod gofyniad preswylio awdurdod lleol neu yn destun gorchymyn adsefydlu ieuenctid â maethu.
(3)Yn is-adran (2), mae gan y termau isod yr un ystyr â’r termau Saesneg cyfatebol yn Rhan 1 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Mewnfudo 2008 (gweler adran 7 o’r Ddeddf honno)—
“gofyniad preswylio awdurdod lleol” (“local authority residence requirement”);
“gorchymyn adsefydlu ieuenctid” (“youth rehabilitation order”);
“gorchymyn adsefydlu ieuenctid â maethu” (“youth rehabilitation order with fostering”).
(4)Mae is-adran (5) yn gymwys—
(a) pan fo plentyn—
(i)wedi ei symud o dan Ran 5 o Ddeddf Plant 1989, neu
(ii)wedi ei gadw’n gaeth o dan adran 38 o Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984, a
(b)pan nad yw’r plentyn yn cael llety a ddarperir—
(i)gan awdurdod lleol [F1neu awdurdod lleol yn Lloegr], neu
(ii)mewn ysbyty a freiniwyd yng Ngweinidogion Cymru, Ymddiriedolaeth GIG, Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG neu’r Ysgrifennydd Gwladol, neu sydd fel arall wedi ei roi ar gael yn unol â threfniadau a wnaed gan Fwrdd Iechyd Lleol, Ymddiriedolaeth GIG, Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG, Gweinidogion Cymru, yr Ysgrifennydd Gwladol, Bwrdd Comisiynu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol neu grŵp comisiynu clinigol.
(5)Gellir adennill unrhyw gostau rhesymol a dynnwyd wrth roi llety i’r plentyn oddi wrth yr awdurdod lleol [F2neu’r awdurdod lleol yn Lloegr] y mae’r plentyn yn preswylio fel arfer yn ei ardal.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn a. 77(4)(b)(i) wedi eu mewnosod (6.4.2016) gan Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016 (O.S. 2016/413), rhlau. 2(1), 300(a)
F2Geiriau yn a. 77(5) wedi eu mewnosod (6.4.2016) gan Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016 (O.S. 2016/413), rhlau. 2(1), 300(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 77 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)