Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

76Llety i blant sydd heb rieni, neu blant sydd ar goll neu sydd wedi eu gadael etcLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Rhaid i awdurdod lleol ddarparu llety i unrhyw blentyn yn ei ardal yr ymddengys i’r awdurdod bod angen llety arno oherwydd—

(a)nad oes unrhyw berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn,

(b)bod y plentyn ar goll neu wedi cael ei adael, neu

(c)bod y person sydd wedi bod yn gofalu am y plentyn yn cael ei atal (p’un ai yn barhaol ai peidio, ac am ba reswm bynnag) rhag darparu llety neu ofal addas i’r plentyn.

(2)Pan fo awdurdod lleol yn darparu llety o dan is-adran (1) i blentyn sy’n preswylio fel arfer mewn ardal awdurdod lleol arall, caiff yr awdurdod lleol arall hwnnw gymryd drosodd y gwaith o ddarparu llety i’r plentyn o fewn—

(a)tri mis o gael ei hysbysu’n ysgrifenedig bod llety’n cael ei ddarparu i’r plentyn, neu

(b)unrhyw gyfnod hirach arall a bennir.

[F1(2A)Pan fo awdurdod lleol yn Lloegr yn darparu llety o dan adran 20(1) o Ddeddf Plant 1989 (darparu llety i blant: cyffredinol) i blentyn sy’n preswylio fel arfer mewn ardal awdurdod lleol yng Nghymru, caiff yr awdurdod lleol hwnnw yng Nghymru gymryd drosodd y gwaith o ddarparu llety i’r plentyn o fewn—

(a)tri mis o gael ei hysbysu’n ysgrifenedig fod llety’n cael ei ddarparu i’r plentyn, neu

(b)unrhyw gyfnod hirach arall a bennir.]

(3)Rhaid i awdurdod lleol ddarparu llety i unrhyw blentyn yn ei ardal sydd wedi cyrraedd 16 oed ac y byddai llesiant y plentyn hwnnw, ym marn yr awdurdod, yn debygol o gael ei andwyo’n ddifrifol os na fyddai’r awdurdod yn darparu llety iddo.

(4)Ni chaniateir i awdurdod lleol ddarparu llety o dan yr adran hon i unrhyw blentyn os bydd unrhyw berson yn gwrthwynebu a hwnnw—

(a)yn berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn, a

(b)yn fodlon ac yn gallu—

(i)darparu llety i’r plentyn, neu

(ii)trefnu bod llety yn cael ei ddarparu i’r plentyn.

(5)Caiff unrhyw berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn symud y plentyn ar unrhyw adeg o lety a ddarperir gan neu ar ran awdurdod lleol o dan yr adran hon.

(6)Nid yw is-adrannau (4) a (5) yn gymwys tra bo unrhyw berson—

(a)y mae gorchymyn preswylio o’i blaid ef mewn grym mewn cysylltiad â’r plentyn,

(b)sy’n warcheidwad arbennig i’r plentyn, neu

(c)sydd â gofal am y plentyn yn rhinwedd gorchymyn a wnaed wrth arfer awdurdodaeth gynhenid yr Uchel Lys mewn cysylltiad â phlant,

yn cytuno bod y plentyn yn derbyn gofal mewn llety a ddarperir gan, neu ar ran, yr awdurdod lleol.

(7)Pan fo mwy nag un person o’r math a grybwyllwyd yn is-adran (6), rhaid i bob un ohonynt fod yn gytûn.

(8)Nid yw is-adrannau (4) a (5) yn gymwys pan fo plentyn sydd wedi cyrraedd 16 oed yn cytuno bod llety’n cael ei ddarparu iddo o dan yr adran hon.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 76 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I2A. 76 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)