RHAN 5CODI FFIOEDD AC ASESIADAU ARIANNOL
Adolygiadau
73Adolygiadau sy’n ymwneud â chodi ffioedd
(1)
Rhaid i reoliadau wneud darpariaeth ar gyfer adolygu, neu’n gysylltiedig ag adolygu—
(a)
ffioedd a osodir o dan adran 59,
(b)
dyfarniadau a wneir o dan adran 66, a
(c)
penderfyniadau sy’n ymwneud ag atebolrwydd trosglwyddai i dalu swm i awdurdod lleol o dan adran 72.
(2)
Caiff y rheoliadau wneud (ymhlith pethau eraill) ddarpariaeth ynghylch y canlynol—
(a)
y personau a gaiff ofyn am adolygiad (ar eu rhan hwy eu hunain neu ar ran person arall);
(b)
o dan ba amgylchiadau ac ym mha fodd y caniateir gofyn am adolygiad;
(c)
o fewn pa gyfnod y mae’n rhaid i gais gael ei wneud;
(d)
y weithdrefn sydd i’w dilyn, a’r camau sydd i’w cymryd, mewn cysylltiad ag adolygiad;
(e)
y disgrifiad o’r personau a gaiff wneud penderfyniad yn dilyn yr adolygiad;
(f)
effaith penderfyniad o’r math hwnnw.