xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 5LL+CCODI FFIOEDD AC ASESIADAU ARIANNOL

Gorfodi dyledionLL+C

72Trosglwyddo asedau i osgoi ffioeddLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys mewn achos pan fo anghenion person (“P”) wedi eu diwallu neu’n cael eu diwallu gan awdurdod lleol o dan adrannau 35 i 42 neu adran 45 a phan fo—

(a)person (“y trosglwyddwr”) (a gaiff fod yn P ond nid oes rhaid iddo) wedi trosglwyddo ased i berson arall (“trosglwyddai”),

(b)y trosglwyddiad wedi ei wneud gyda’r bwriad o osgoi ffioedd am ddiwallu anghenion P, ac

(c)naill ai’r gydnabyddiaeth ar gyfer y trosglwyddiad yn llai na gwerth yr ased neu na fo unrhyw gydnabyddiaeth ar gyfer y trosglwyddiad.

(2)Mae’r trosglwyddai yn atebol i dalu i’r awdurdod lleol swm sy’n hafal i’r gwahaniaeth rhwng—

(a)y swm y byddai’r awdurdod wedi ei godi ar y trosglwyddwr pe na bai’r ased wedi ei drosglwyddo, a

(b)y swm a gododd ar y trosglwyddwr mewn gwirionedd.

(3)Ond nid yw’r trosglwyddai yn atebol i dalu i’r awdurdod lleol swm sy’n fwy na’r budd a ddaw i’r trosglwyddai o’r trosglwyddiad.

(4)Pan fo ased wedi ei drosglwyddo i fwy nag un trosglwyddai, mae atebolrwydd pob trosglwyddai yn gymesur â’r budd a ddaw i’r trosglwyddai hwnnw o’r trosglwyddiad.

(5)Yn yr adran hon ystyr “ased” yw unrhyw beth y caniateir ei ystyried at ddibenion asesiad ariannol.

(6)Gwerth ased (ac eithrio arian parod) yw’r swm a geid pe bai’r ased wedi ei werthu ar y farchnad agored gan werthwr bodlon adeg y trosglwyddiad, gan ddidynnu ar gyfer—

(a)swm unrhyw lyffethair ar yr ased, a

(b)swm rhesymol mewn cysylltiad â threuliau’r gwerthiant.

(7)Caiff rheoliadau bennu achosion neu amgylchiadau pan na fo atebolrwydd o dan is-adran (2) yn codi.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 72 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I2A. 72 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)