RHAN 5CODI FFIOEDD AC ASESIADAU ARIANNOL

Gorfodi dyledion

I1I270Adennill costau, llog etc

1

Gellir adennill unrhyw swm sy’n ddyledus i awdurdod lleol o dan y Rhan hon gan yr awdurdod fel dyled sy’n ddyledus iddo.

2

Ond nid yw is-adran (1) yn gymwys mewn achos lle y gellid ymrwymo i gytundeb ar daliadau gohiriedig, yn unol â rheoliadau o dan adran 68, oni bai—

a

bod yr awdurdod lleol wedi ceisio ymrwymo i gytundeb o’r fath â’r person y mae’r swm yn ddyledus ganddo, a

b

bod y person hwnnw wedi gwrthod.

3

Gellir adennill yn ddiannod fel dyled sifil swm y gellir ei adennill gan awdurdod lleol o dan is-adran (1) (ond nid yw hynny’n effeithio ar unrhyw ddull arall o’i adennill).

4

Gellir adennill swm o dan yr adran hon o fewn chwe blynedd i’r dyddiad y daw’r swm yn ddyledus i’r awdurdod lleol.

5

Pan fo person a grybwyllir yn is-adran (6) yn camliwio neu’n methu â datgelu (p’un ai’n dwyllodrus neu fel arall) i awdurdod lleol unrhyw ffaith o bwys mewn cysylltiad â darpariaethau’r Rhan hon, mae’r symiau canlynol yn ddyledus i’r awdurdod gan y person hwnnw—

a

unrhyw wariant a dynnir gan yr awdurdod o ganlyniad i’r camliwio neu’r methiant, a

b

unrhyw swm y gellir ei adennill o dan yr adran hon ac nad yw’r awdurdod wedi ei adennill o ganlyniad i’r camliwio neu’r methiant.

6

Y personau yw—

a

oedolyn—

i

y mae’n ymddangos i’r awdurdod lleol y mae arno anghenion am ofal a chymorth neu (yn achos gofalwr) am gymorth o dan Ran 3, a

ii

y mae ganddo’r galluedd i ddeall p’un a allai ffaith fod o bwys mewn cysylltiad â darpariaethau’r Rhan hon;

b

oedolyn—

i

y darperir rhywbeth iddo er mwyn diwallu anghenion person arall am ofal a chymorth neu (yn achos gofalwr) am gymorth o dan Ran 3, a

ii

y mae ganddo’r galluedd i ddeall p’un a allai ffaith fod o bwys mewn cysylltiad â darpariaethau’r Rhan hon;

c

oedolyn o ddisgrifiad a bennir mewn rheoliadau mewn perthynas â gofal a chymorth, neu (yn achos gofalwr) cymorth, ac y mae’n ymddangos i’r awdurdod lleol bod angen y gofal a’r cymorth hwnnw, neu’r cymorth hwnnw, ar—

i

plentyn, neu

ii

oedolyn nad oes ganddo’r galluedd i ddeall p’un a allai ffaith fod o bwys mewn cysylltiad â darpariaethau’r Rhan hon.

7

Gellir adennill y costau rhesymol a dynnir gan awdurdod lleol wrth adennill neu wrth geisio ag adennill swm sy’n ddyledus iddo o dan y Rhan hon gan yr awdurdod fel dyled sy’n ddyledus iddo; ac mae is-adran (3) yn gymwys i adennill y costau hynny fel petaent yn symiau y mae is-adran (1) yn gymwys iddynt.

8

Caiff rheoliadau—

a

gwneud darpariaeth ar gyfer dyfarnu’r dyddiad y daw swm yn ddyledus i awdurdod lleol at ddibenion yr adran hon;

b

pennu achosion neu amgylchiadau lle na all awdurdod lleol adennill o dan yr adran hon swm sy’n ddyledus iddo o dan y Rhan hon;

c

pennu achosion neu amgylchiadau lle y caiff awdurdod lleol godi llog ar swm (gan gynnwys unrhyw gostau y gellid eu hadennill o dan is-adran (7)) sy’n ddyledus iddo o dan y Rhan hon;

d

pan ellir codi llog, ddarparu—

i

bod rhaid iddo gael ei godi yn ôl cyfradd sy’n uwch na’r gyfradd a bennir mewn rheoliadau neu a ddyfernir yn unol â hwy;

ii

na chaniateir ei godi yn ôl cyfradd sy’n uwch na’r gyfradd a bennir mewn rheoliadau neu a ddyfernir yn unol â hwy.