RHAN 5CODI FFIOEDD AC ASESIADAU ARIANNOL

Codi ffi am wasanaethau ataliol a chynhorthwy

69Codi ffi am wasanaethau ataliol a chynhorthwy

(1)

Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch ffioedd—

(a)

am wasanaethau a ddarperir o dan adran 15;

(b)

am gynhorthwy a ddarperir o dan adran 17.

(2)

Ond ni chaniateir i’r rheoliadau wneud darpariaeth—

(a)

sy’n galluogi gosod ffi am wasanaethau neu gynhorthwy y mae ffi wedi ei gosod mewn cysylltiad â hwy o dan adran 59,

(b)

sy’n galluogi ffi i gwmpasu unrhyw beth ac eithrio’r gost a dynnir wrth ddarparu’r gwasanaethau neu’r cynhorthwy y mae’r ffi yn ymwneud â hwy, neu

(c)

sy’n galluogi gosod ffi ar blentyn.