RHAN 5CODI FFIOEDD AC ASESIADAU ARIANNOL

Codi ffioedd am ddiwallu anghenion

64Rheoliadau am asesiadau ariannol

(1)

Rhaid i reoliadau wneud darpariaeth ar gyfer cynnal asesiadau ariannol ac mewn perthynas â’u cynnal.

(2)

Rhaid i’r rheoliadau wneud darpariaeth ar gyfer—

(a)

cyfrifo incwm;

(b)

cyfrifo cyfalaf.

(3)

Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth hefyd ar gyfer y materion canlynol (ymhlith materion eraill)—

(a)

trin, neu beidio â thrin, symiau o fath penodedig fel incwm neu fel cyfalaf;

(b)

achosion neu amgylchiadau lle y mae person i’w drin fel un a chanddo adnoddau ariannol sy’n uwch na lefel benodedig (a’r rhain yn achosion neu’n amgylchiadau a all gynnwys, er enghraifft, achosion lle y mae’r person sy’n cael ei asesu wedi methu â darparu i’r awdurdod lleol, pan ofynnwyd iddo wneud hynny, wybodaeth neu ddogfennau sydd ym meddiant y person neu o dan ei reolaeth);

(c)

achosion neu amgylchiadau lle y mae’n rhaid neu y caniateir i asesiad ariannol newydd gael ei gynnal.