RHAN 2SWYDDOGAETHAU CYFFREDINOL

Dyletswyddau hollgyffredinol

6Dyletswyddau hollgyffredinol eraill: cyffredinol

(1)

Rhaid i berson sy’n arfer swyddogaethau o dan y Ddeddf hon—

(a)

mewn perthynas ag unigolyn y mae arno anghenion am ofal a chymorth, neu y gall fod arno anghenion am ofal a chymorth,

(b)

mewn perthynas â gofalwr y mae arno anghenion am gymorth, neu y gall fod arno anghenion am gymorth, neu

(c)

mewn perthynas ag unigolyn y mae swyddogaethau yn arferadwy mewn cysylltiad ag ef o dan Ran 6 (plant sy’n derbyn gofal etc),

gydymffurfio â’r dyletswyddau yn is-adran (2).

(2)

Rhaid i’r person—

(a)

i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol, ganfod barn, dymuniadau a theimladau’r unigolyn a rhoi sylw i’r farn honno, y dymuniadau hynny a’r teimladau hynny,

(b)

rhoi sylw i bwysigrwydd hyrwyddo a pharchu urddas yr unigolyn,

(c)

rhoi sylw i nodweddion, diwylliant a chredoau’r unigolyn (gan gynnwys, er enghraifft, iaith), a

(d)

rhoi sylw i bwysigrwydd darparu cymorth priodol er mwyn galluogi’r unigolyn i gymryd rhan yn y penderfyniadau sy’n effeithio arno i’r graddau sy’n briodol o dan yr amgylchiadau, yn enwedig pan fo gallu’r unigolyn i gyfathrebu wedi ei gyfyngu am unrhyw reswm.

(3)

Rhaid i berson sy’n arfer swyddogaethau o dan y Ddeddf hon mewn perthynas ag oedolyn sy’n dod o fewn is-adran (1)(a), (b) neu (c), yn ogystal, roi sylw i—

(a)

pwysigrwydd dechrau gyda’r ragdybiaeth mai’r oedolyn sydd yn y sefyllfa orau i farnu llesiant yr oedolyn, a

(b)

pwysigrwydd hyrwyddo annibyniaeth yr oedolyn pan fo’n bosibl.

(4)

Rhaid i berson sy’n arfer swyddogaethau o dan y Ddeddf hon mewn perthynas â phlentyn sy’n dod o fewn is-adran (1)(a), (b) neu (c), yn ogystal—

(a)

rhoi sylw i bwysigrwydd hyrwyddo magwraeth y plentyn gan deulu’r plentyn, i’r graddau y mae gwneud hynny yn gyson â hyrwyddo llesiant y plentyn, a

(b)

pan fo’r plentyn o dan 16 oed, ganfod barn, dymuniadau a theimladau’r personau sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn a rhoi sylw i’r farn honno, y dymuniadau hynny a’r teimladau hynny, i’r graddau y mae gwneud hynny—

(i)

yn gyson â hyrwyddo llesiant y plentyn, a

(ii)

yn rhesymol ymarferol.