xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 4LL+CDIWALLU ANGHENION

Materion atodolLL+C

58Gwarchod eiddo personau y gofelir amdanynt i ffwrdd o’u cartrefiLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys—

(a)pan fo anghenion gofal a chymorth person yn cael eu diwallu o dan adran 35, 36, 37 neu 38 mewn ffordd sy’n cynnwys darparu llety [F1, pan fo’n cael ei dderbyn i ysbyty] (neu’r ddau), a

(b)pan fo’n ymddangos i awdurdod lleol bod perygl o golli neu ddifrodi eiddo symudol y person yn ardal yr awdurdod—

(i)am nad yw’r person yn gallu (p’un ai’n barhaol neu dros dro) gwarchod yr eiddo na delio â’r eiddo, a

(ii)am nad oes trefniadau addas wedi eu gwneud neu’n cael eu gwneud.

(2)Rhaid i’r awdurdod lleol gymryd camau rhesymol i atal neu i leihau’r golled neu’r difrod.

(3)At ddibenion cyflawni’r ddyletswydd honno, caiff yr awdurdod lleol—

(a)ar bob adeg resymol ac ar ôl rhoi hysbysiad rhesymol, fynd i mewn i unrhyw fangre yr oedd y person yn byw ynddi yn union cyn bod llety yn cael ei ddarparu iddo neu cyn iddo gael ei dderbyn i ysbyty, a

(b)cymryd unrhyw gamau eraill y mae’n barnu eu bod yn rhesymol angenrheidiol er mwyn atal neu leihau colled neu ddifrod.

(4)Rhaid i’r awdurdod lleol sicrhau bod y gofynion a ganlyn wedi eu bodloni cyn cymryd unrhyw gamau o dan is-adran (3)(a) neu (b)—

(5)Rhaid i’r awdurdod lleol gymryd camau rhesymol i gael unrhyw gydsyniad y gall fod ei angen o dan is-adran (4).

(6)Pan na all yr awdurdod lleol sicrhau bod y gofynion yn is-adran (4) wedi eu bodloni, mae dyletswydd yr awdurdod lleol o dan is-adran (2) yn peidio â bod yn gymwys.

(7)Pan fo awdurdod lleol yn bwriadu arfer y pŵer o dan is-adran (3)(a) neu (b), rhaid i’r swyddog y mae’n ei awdurdodi i wneud hynny ddarparu, os gofynnir iddo wneud hynny, ddogfennaeth ddilys yn nodi’r awdurdodiad i wneud hynny.

(8)Mae person sydd, heb esgus rhesymol, yn rhwystro arfer y pŵer o dan is-adran (3)(a) neu (b)—

(a)yn cyflawni trosedd, a

(b)yn agored, o’i gollfarnu’n ddiannod, i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 4 ar y raddfa safonol.

(9)Caiff awdurdod lleol adennill unrhyw dreuliau rhesymol y mae’n eu tynnu o dan yr adran hon mewn perthynas ag eiddo symudol oedolyn oddi wrth yr oedolyn hwnnw.

(10)Gellir adennill yn ddiannod fel dyled sifil swm y gellir ei adennill o dan is-adran (9) (ond nid yw hynny’n effeithio ar unrhyw ddull arall o’i adennill).

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 58 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I2A. 58 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)