Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

57Achosion pan fo person yn mynegi ei fod yn ffafrio llety penodolLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Caiff rheoliadau ddarparu—

(a)pan fo awdurdod lleol yn mynd i ddiwallu anghenion o dan adrannau 35 i 38 neu adrannau 40 i 45 drwy ddarparu neu drefnu i ddarparu llety o fath penodedig ar gyfer person,

(b)pan fo’r person o dan sylw, neu berson o ddisgrifiad penodedig, yn mynegi ei fod yn ffafrio llety penodol o’r math hwnnw, ac

(c)pan fo amodau penodedig wedi eu bodloni,

bod yn rhaid i’r awdurdod lleol ddarparu, neu drefnu i ddarparu, y llety sy’n cael ei ffafrio.

(2)Caiff y rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i’r person o dan sylw neu berson o ddisgrifiad penodedig dalu rhywfaint neu’r cyfan o’r gost ychwanegol (os oes un) am y llety sy’n cael ei ffafrio mewn achosion neu amgylchiadau penodedig.

(3)Yn is-adran (2) ystyr “cost ychwanegol” yw’r gwahaniaeth rhwng—

(a)y gost o ddarparu neu drefnu i ddarparu’r llety sy’n cael ei ffafrio, a

(b)y gost y byddai’r awdurdod lleol fel arfer yn disgwyl ei thynnu wrth ddarparu neu wrth drefnu i ddarparu llety addas o’r math hwnnw i ddiwallu anghenion y person o dan sylw.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 57 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I2A. 57 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)