RHAN 4DIWALLU ANGHENION
Cynlluniau
55Rheoliadau ynghylch cynlluniau gofal a chymorth a chynlluniau cymorth
Caiff rheoliadau o dan adran 54(5), er enghraifft—
a
ei gwneud yn ofynnol i gynlluniau fod ar ffurf benodedig;
b
ei gwneud yn ofynnol bod cynlluniau’n cynnwys pethau penodedig;
c
gwneud darpariaeth ynghylch personau pellach y mae’n rhaid i awdurdod lleol eu cynnwys yn y broses o lunio, adolygu neu ddiwygio cynlluniau;
d
ei gwneud yn ofynnol i gynlluniau gael eu llunio, eu hadolygu neu eu diwygio gan bersonau penodedig;
e
rhoi swyddogaethau i bersonau a bennir yn y rheoliadau mewn cysylltiad â llunio, adolygu neu ddiwygio cynlluniau;
f
pennu personau y mae’n rhaid darparu copïau ysgrifenedig o gynllun iddynt (gan gynnwys mewn achosion penodedig, darparu copïau heb gydsyniad y person y mae’r cynllun yn ymwneud ag ef);
g
pennu amgylchiadau pellach y mae’n rhaid i gynlluniau gael eu hadolygu odanynt.