Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

54Cynlluniau gofal a chymorth a chynlluniau cymorthLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Pan fo’n ofynnol i awdurdod lleol ddiwallu anghenion person o dan adran 35 neu 37, rhaid iddo lunio a chynnal cynllun gofal a chymorth mewn perthynas â’r person hwnnw.

(2)Pan fo’n ofynnol i awdurdod lleol ddiwallu anghenion gofalwr o dan adran 40 neu 42, rhaid iddo lunio a chynnal cynllun cymorth mewn perthynas â’r gofalwr hwnnw.

(3)Rhaid i awdurdod lleol adolygu’n gyson gynlluniau y mae’n eu cynnal o dan yr adran hon.

(4)Pan fo awdurdod lleol wedi ei fodloni bod amgylchiadau’r person y mae cynllun yn ymwneud ag ef wedi newid mewn ffordd sy’n effeithio ar y cynllun, rhaid i’r awdurdod—

(a)gwneud unrhyw asesiadau y mae’n barnu eu bod yn briodol, a

(b)diwygio’r cynllun.

(5)Rhaid i reoliadau wneud darpariaeth ynghylch—

(a)sut y mae cynlluniau o dan yr adran hon i gael eu llunio;

(b)yr hyn y mae cynllun i’w gynnwys;

(c)adolygu a diwygio cynlluniau.

(6)Rhaid i reoliadau o dan is-adran (5)(c) bennu, yn benodol—

(a)y personau a gaiff ofyn am adolygiad o gynllun (ar eu rhan hwy eu hunain neu ar ran person arall);

(b)o dan ba amgylchiadau—

(i)y caiff awdurdod lleol wrthod cydymffurfio â chais am adolygiad o gynllun, a

(ii)na chaiff awdurdod lleol wrthod gwneud hynny.

(7)Wrth lunio, adolygu neu ddiwygio cynllun o dan yr adran hon, rhaid i awdurdod lleol gynnwys—

(a)yn achos cynllun gofal a chymorth sy’n ymwneud ag oedolyn, yr oedolyn a, phan fo’n ddichonadwy, unrhyw ofalwr sydd gan yr oedolyn;

(b)yn achos cynllun gofal a chymorth sy’n ymwneud â phlentyn, y plentyn ac unrhyw berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn;

(c)yn achos cynllun cymorth sy’n ymwneud â gofalwr, y gofalwr a, phan fo’n ddichonadwy, y person y mae’r gofalwr yn darparu neu’n bwriadu darparu gofal iddo.

(8)Caiff yr awdurdod lleol—

(a)llunio, adolygu neu ddiwygio cynllun o dan yr adran hon yr un pryd ag y mae ef neu gorff arall yn llunio, adolygu neu ddiwygio dogfen arall yn achos y person o dan sylw, a

(b)cynnwys y ddogfen arall yn y cynllun.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

C1A. 54 cyfyngedig (dd.) (1.4.2020) gan Coronavirus Act 2020 (c. 7), a. 87(2), Atod. 12 para. 31 (ynghyd ag aau. 88-90, Atod. 12 para. 34); O.S. 2020/366, rhl. 3 (ddarpariaethau sy'n effeithio'n gynharach wedi'i atal (22.3.2021) gan (O.S. 2021/316), rhlau. 1(2), 2(a) ac yn dod i ben (1.8.2021) yn rhinwedd Rheoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Dod i Ben yn Gynnar: Gofal a Chymorth gan Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/850), rhlau. 1(2), 2(a))

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 54 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I2A. 54 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)