RHAN 4DIWALLU ANGHENION

Cynlluniau

54Cynlluniau gofal a chymorth a chynlluniau cymorth

(1)

Pan fo’n ofynnol i awdurdod lleol ddiwallu anghenion person o dan adran 35 neu 37, rhaid iddo lunio a chynnal cynllun gofal a chymorth mewn perthynas â’r person hwnnw.

(2)

Pan fo’n ofynnol i awdurdod lleol ddiwallu anghenion gofalwr o dan adran 40 neu 42, rhaid iddo lunio a chynnal cynllun cymorth mewn perthynas â’r gofalwr hwnnw.

(3)

Rhaid i awdurdod lleol adolygu’n gyson gynlluniau y mae’n eu cynnal o dan yr adran hon.

(4)

Pan fo awdurdod lleol wedi ei fodloni bod amgylchiadau’r person y mae cynllun yn ymwneud ag ef wedi newid mewn ffordd sy’n effeithio ar y cynllun, rhaid i’r awdurdod—

(a)

gwneud unrhyw asesiadau y mae’n barnu eu bod yn briodol, a

(b)

diwygio’r cynllun.

(5)

Rhaid i reoliadau wneud darpariaeth ynghylch—

(a)

sut y mae cynlluniau o dan yr adran hon i gael eu llunio;

(b)

yr hyn y mae cynllun i’w gynnwys;

(c)

adolygu a diwygio cynlluniau.

(6)

Rhaid i reoliadau o dan is-adran (5)(c) bennu, yn benodol—

(a)

y personau a gaiff ofyn am adolygiad o gynllun (ar eu rhan hwy eu hunain neu ar ran person arall);

(b)

o dan ba amgylchiadau—

(i)

y caiff awdurdod lleol wrthod cydymffurfio â chais am adolygiad o gynllun, a

(ii)

na chaiff awdurdod lleol wrthod gwneud hynny.

(7)

Wrth lunio, adolygu neu ddiwygio cynllun o dan yr adran hon, rhaid i awdurdod lleol gynnwys—

(a)

yn achos cynllun gofal a chymorth sy’n ymwneud ag oedolyn, yr oedolyn a, phan fo’n ddichonadwy, unrhyw ofalwr sydd gan yr oedolyn;

(b)

yn achos cynllun gofal a chymorth sy’n ymwneud â phlentyn, y plentyn ac unrhyw berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn;

(c)

yn achos cynllun cymorth sy’n ymwneud â gofalwr, y gofalwr a, phan fo’n ddichonadwy, y person y mae’r gofalwr yn darparu neu’n bwriadu darparu gofal iddo.

(8)

Caiff yr awdurdod lleol—

(a)

llunio, adolygu neu ddiwygio cynllun o dan yr adran hon yr un pryd ag y mae ef neu gorff arall yn llunio, adolygu neu ddiwygio dogfen arall yn achos y person o dan sylw, a

(b)

cynnwys y ddogfen arall yn y cynllun.