RHAN 4DIWALLU ANGHENION
Taliadau uniongyrchol
53Taliadau uniongyrchol: darpariaeth bellach
(1)
Caiff rheoliadau o dan adran 50, 51 neu 52 hefyd wneud darpariaeth ynghylch y materion canlynol (ymhlith pethau eraill)—
(a)
y dull y mae symiau’r taliadau uniongyrchol i’w dyfarnu;
(b)
gwneud taliadau uniongyrchol fel taliadau gros neu fel arall fel taliadau net;
(c)
dyfarnu—
(i)
adnoddau ariannol personau penodedig, a
(ii)
y swm (os oes un) a fyddai’n rhesymol ymarferol i’r personau hynny ei dalu ar ffurf ad-daliad (yn achos taliadau gros) neu gyfraniad (yn achos taliadau net);
(d)
materion y caiff awdurdod lleol, neu y mae’n rhaid iddo, roi sylw iddynt wrth wneud penderfyniad o fath penodedig ynghylch taliadau uniongyrchol;
(e)
amodau y caiff awdurdod lleol, neu y mae’n rhaid iddo, eu gosod a’r amodau na chaniateir iddo eu gosod, mewn perthynas â thaliadau uniongyrchol;
(f)
camau y caiff awdurdod lleol, neu y mae’n rhaid iddo, eu cymryd cyn, neu ar ôl, gwneud dyfarniad o fath penodedig ynghylch taliadau uniongyrchol;
(g)
cymorth y mae’n rhaid i awdurdod lleol ei ddarparu neu ei drefnu ar gyfer personau y mae’n gwneud taliadau uniongyrchol iddynt;
(h)
achosion neu amgylchiadau lle y caiff awdurdod lleol weithredu fel asiant ar ran person y mae taliadau uniongyrchol yn cael eu gwneud iddo;
(i)
amodau y disodlir odanynt ddyletswydd neu bŵer awdurdod lleol i ddiwallu anghenion person am ofal a chymorth, neu anghenion gofalwr am gymorth, drwy wneud taliadau uniongyrchol, ac i ba raddau y disodlir y ddyletswydd honno neu’r pŵer hwnnw;
(j)
achosion neu amgylchiadau lle na chaiff awdurdod lleol wneud, neu lle y caniateir iddo beidio â gwneud, taliadau i berson neu mewn perthynas â pherson;
(k)
achosion neu amgylchiadau lle y mae’n rhaid i berson, neu lle y caiff person, nad yw bellach heb alluedd, neu y mae’r awdurdod lleol yn credu nad yw’r oedolyn hwnnw bellach heb alluedd, i gydsynio bod taliadau uniongyrchol yn cael eu gwneud, gael ei drin, serch hynny, at ddibenion adrannau 50 i 52 fel pe na bai ganddo’r galluedd i wneud hynny;
(l)
achosion neu amgylchiadau lle y caiff, neu y mae’n rhaid i, awdurdod lleol sy’n gwneud taliadau uniongyrchol adolygu’r arfer o wneud y taliadau hynny;
(m)
achosion neu amgylchiadau lle y caiff, neu y mae’n rhaid i, awdurdod lleol sy’n gwneud taliadau uniongyrchol—
(i)
terfynu’r arfer o wneud y taliadau hynny;
(ii)
ei gwneud yn ofynnol i’r cyfan neu ran o daliad uniongyrchol gael ei ad-dalu;
(n)
adennill unrhyw swm sy’n ddyledus i awdurdod lleol mewn cysylltiad â gwneud taliadau uniongyrchol.
(2)
Yn is-adran (1)(b) ac (c)—
ystyr “taliadau gros” yw taliadau uniongyrchol—
(a)
a wneir ar raddfa y mae’r awdurdod lleol yn amcangyfrif ei bod yn gyfatebol i’r gost resymol o sicrhau bod y gofal a’r cymorth (neu, yn achos gofalwyr, y cymorth), y mae’r taliadau’n cael eu gwneud mewn perthynas â hwy, yn cael eu darparu, ond
(b)
y caniateir eu gwneud yn ddarostyngedig i’r amod bod person a bennir mewn rheoliadau yn talu i’r awdurdod, ar ffurf ad-daliad, swm neu symiau a ddyfernir o dan y rheoliadau;
ystyr “taliadau net” yw taliadau uniongyrchol—
(a)
a wneir ar y sail y bydd person a bennir mewn rheoliadau yn talu swm neu symiau a bennir o dan y rheoliadau drwy gyfraniad tuag at y gost o sicrhau’r ddarpariaeth o ofal a chymorth (neu, yn achos gofalwyr, y cymorth) y gwneir y taliadau mewn perthynas â hwy, a
(b)
a wneir yn unol â hynny ar raddfa islaw’r raddfa y mae’r awdurdod lleol yn amcangyfrif ei bod yn gyfatebol i’r gost resymol o sicrhau’r ddarpariaeth o’r gofal a’r cymorth hwnnw (neu, yn achos gofalwyr, y cymorth hwnnw) i adlewyrchu’r cyfraniad a wneir gan y person hwnnw.
(3)
Caiff rheoliadau o dan adran 50, 51 neu 52 wneud darpariaeth mewn perthynas â thaliadau uniongyrchol sy’n cyfateb i’r ddarpariaeth a wneir gan, neu y caniateir ei gwneud o dan, adrannau 59 i 67 neu adran 73.
(4)
At ddibenion is-adran (3), mae’r ddarpariaeth yn cyfateb i’r ddarpariaeth honno a wneir gan neu o dan adrannau 59 i 67 neu adran 73 os yw, mewn perthynas ag ad-daliadau neu gyfraniadau, yn gwneud darpariaeth sydd, ym marn Gweinidogion Cymru, yn cael effaith gyfatebol i’r ddarpariaeth a wneir gan neu o dan yr adrannau hynny mewn perthynas â ffioedd ar gyfer darparu neu drefnu ar gyfer darparu gofal a chymorth (neu gymorth, yn achos gofalwyr) i ddiwallu anghenion person.
(5)
Rhaid i reoliadau o dan adran 50, 51 neu 52 ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol gymryd camau penodedig i alluogi personau perthnasol i wneud dewisiadau deallus ynghylch y defnydd o daliadau uniongyrchol.
(6)
Yn is-adran (5) ystyr “personau perthnasol” yw personau y mae rhaid cael eu cydsyniad i wneud taliadau uniongyrchol o dan reoliadau a wneir o dan adran 50, 51 neu 52.
(7)
Rhaid i reoliadau o dan adran 51 bennu, pan fo taliadau uniongyrchol yn cael eu gwneud i berson sy’n cael budd-dal sy’n dod o fewn categori penodedig—
(a)
bod rhaid i’r taliadau gael eu gwneud ar raddfa y mae’r awdurdod lleol yn amcangyfrif ei bod yn gyfatebol i’r gost resymol o sicrhau bod y gofal a’r cymorth, y mae’r taliadau yn cael eu gwneud mewn cysylltiad â hwy, yn cael eu darparu, a
(b)
na chaniateir iddynt gael eu gwneud yn ddarostyngedig i unrhyw amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i berson dalu unrhyw swm i’r awdurdod ar ffurf ad-daliad.
(8)
Yn is-adran (7) mae “budd-dal” yn cynnwys unrhyw lwfans, taliad, credyd neu fenthyciad.
(9)
Caiff person y mae awdurdod lleol yn gwneud taliad uniongyrchol iddo, yn ddarostyngedig i reoliadau a wneir o dan adran 50, 51 neu 52, ddefnyddio’r taliad i brynu gofal a chymorth (neu, yn achos gofalwr, gymorth) gan unrhyw berson (gan gynnwys, ymhlith eraill, yr awdurdod a wnaeth y taliad).
(10)
Caiff awdurdod lleol osod ffi resymol am y ddarpariaeth o ofal a chymorth (neu, yn achos gofalwr, gymorth) i ddiwallu anghenion y mae taliad uniongyrchol wedi ei wneud mewn cysylltiad â hwy.
F1(11)
Mae’r ffyrdd y caiff awdurdod lleol gyflawni ei ddyletswydd o dan adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 yn cynnwys drwy wneud taliadau uniongyrchol; ac at y diben hwnnw mae Atodlen A1 (sy’n cynnwys addasiadau i adrannau 50 a 51 a’r adran hon) yn cael effaith.