Valid from 06/04/2016
48Eithriad ar gyfer darparu tai etcLL+C
Ni chaiff awdurdod lleol ddiwallu anghenion oedolyn am ofal a chymorth (gan gynnwys anghenion gofalwr am gymorth) o dan adrannau 35 i 45 na chyflawni ei ddyletswydd o dan adran 15 drwy wneud unrhyw beth y mae’n ofynnol i’r awdurdod lleol hwnnw neu awdurdod lleol arall ei wneud o dan—
(a)[F1Deddf Tai (Cymru) 2014], neu
(b)unrhyw ddeddfiad arall a bennir mewn rheoliadau.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn a. 48(a) wedi eu hamnewid (27.4.2015) gan Deddf Tai (Cymru) 2014 (anaw 7), a. 145(3), Atod. 3 para. 22(2); O.S. 2015/1272, ergl. 2, Atod. para. 53
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C1Aau. 46-49 cymhwyso (1.4.2015 at ddibenion penodedig) by Deddf Gofal 2014 (c. 23), aau. 52(8), 127(1) (ynghyd ag a. 52(13)(14)); O.S. 2015/993, ergl. 2(p) (ynghyd â darpariaethau trosiannol in O.S. 2015/995)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 48 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)