(1)Ni chaiff awdurdod lleol ddiwallu anghenion person am ofal a chymorth (gan gynnwys anghenion gofalwr am gymorth) o dan adrannau 35 i 45 drwy ddarparu neu drwy drefnu i ddarparu gwasanaeth neu gyfleuster y mae’n ofynnol ei ddarparu o dan ddeddfiad iechyd, oni bai
[F1(a)] y byddai gwneud hynny yn gysylltiedig â gwneud rhywbeth arall i ddiwallu anghenion o dan yr adrannau hynny, neu’n ategol at wneud hynny[F2, a
(b)y byddai’r gwasanaeth neu’r cyfleuster o dan sylw o natur y gellid disgwyl i’r awdurdod lleol ei ddarparu.]
(2)Ni chaiff awdurdod lleol sicrhau gwasanaethau neu gyfleusterau i berson o dan adran 15 (gwasanaethau ataliol) y mae’n ofynnol eu darparu o dan ddeddfiad iechyd, oni bai
[F3(a)] y byddai gwneud hynny’n gysylltiedig â sicrhau, neu’n ategol at sicrhau, gwasanaeth neu gyfleuster arall i’r person hwnnw o dan yr adran honno[F4, a
(b)y byddai’r gwasanaeth neu’r cyfleuster o dan sylw o natur y gellid disgwyl i’r awdurdod lleol ei ddarparu.]
(3)Caiff rheoliadau bennu—
(a)mathau o wasanaethau neu gyfleusterau y caniateir, er gwaethaf is-adrannau (1) a (2), eu darparu neu eu trefnu gan awdurdod lleol, neu amgylchiadau y caniateir i wasanaethau neu gyfleusterau o’r fath gael eu darparu neu eu trefnu ynddynt;
(b)mathau o wasanaethau neu gyfleusterau na chaniateir iddynt gael eu darparu neu eu trefnu gan awdurdod lleol, neu amgylchiadau na chaniateir i wasanaethau neu gyfleusterau o’r fath gael eu darparu neu eu trefnu ynddynt;
(c)gwasanaethau neu gyfleusterau, neu ddull ar gyfer dyfarnu gwasanaethau neu gyfleusterau, y mae eu darparu i’w drin, neu i’w beidio â’i drin, fel pe bai’n gysylltiedig neu’n ategol at ddibenion is-adran (1) neu (2).
(4)Ni chaiff awdurdod lleol ddiwallu anghenion person am ofal a chymorth (gan gynnwys anghenion gofalwr am gymorth) o dan adrannau 35 i 45 drwy ddarparu neu drwy drefnu i ddarparu gofal nyrsio gan nyrs gofrestredig.
(5)Ni chaiff awdurdod lleol sicrhau’r ddarpariaeth o ofal nyrsio gan nyrs gofrestredig wrth gyflawni ei ddyletswyddau o dan adran 15.
(6)Ond caiff awdurdod lleol, er gwaethaf is-adrannau (1), (2), (4) a (5), drefnu i lety ynghyd â gofal nyrsio gan nyrs gofrestredig gael eu darparu—
(a)os yw’r awdurdod wedi cael cydsyniad i drefnu’r ddarpariaeth o ofal nyrsio gan—
(i)pa Fwrdd Iechyd Lleol bynnag sy’n ofynnol o dan reoliadau, yn achos llety yng Nghymru, yr Alban neu Ogledd Iwerddon, neu
(ii)pa gorff iechyd Seisnig bynnag sy’n ofynnol o dan reoliadau, yn achos llety yn Lloegr, neu
(b)mewn achos brys a lle bo’r trefniadau’n rhai dros dro.
(7)Mewn achos y mae is-adran (6)(b) yn gymwys iddo, rhaid i’r awdurdod lleol geisio cael y cydsyniad a grybwyllwyd yn is-adran (6)(a) cyn gynted ag y bo’n ddichonadwy ar ôl i’r trefniadau dros dro gael eu gwneud.
(8)Caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol bod awdurdod lleol—
(a)yn gwneud trefniadau mewn cysylltiad â datrys anghydfodau rhwng yr awdurdod a chorff iechyd ynghylch p’un a yw’n ofynnol darparu gwasanaeth neu gyfleuster ai peidio o dan ddeddfiad iechyd;
(b)yn cymryd rhan yn y modd a bennir mewn prosesau ar gyfer asesu anghenion person am ofal iechyd a phenderfynu sut y dylid diwallu’r anghenion hynny.
(9)Nid oes dim yn yr adran hon yn effeithio ar yr hyn y caiff awdurdod lleol ei wneud o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006, gan gynnwys ymrwymo i drefniadau o dan reoliadau a wneir o dan adran 33 o’r Ddeddf honno (trefniadau â chyrff GIG).
(10)Yn yr adran hon—
ystyr “corff iechyd” (“health body”) yw—
ystyr “corff iechyd Seisnig” (“English health body”) yw—
ystyr “deddfiad iechyd” (“health enactment”) yw—
Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;
Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006;
Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 1978;
Deddf (Diwygio) Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Gogledd Iwerddon) 2009;
ystyr “gofal nyrsio” (“nursing care”) yw gwasanaeth sy’n cynnwys naill ai darparu gofal neu gynllunio, goruchwylio neu ddirprwyo’r gwaith o ddarparu gofal, ond nid yw’n cynnwys gwasanaeth nad oes angen iddo, o ran ei natur a’r amgylchiadau y mae i’w ddarparu ynddynt, gael ei ddarparu gan nyrs gofrestredig.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn a. 47(1) wedi eu ailrifo fel a. 47(1)(a) (25.3.2025) gan Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2025 (asc 1), aau. 26(2)(a), 29(1)(b)
F2A. 47(1)(b) ac gair wedi ei fewnosod (25.3.2025) gan Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2025 (asc 1), aau. 26(2)(b), 29(1)(b)
F3Geiriau yn a. 47(2) wedi eu ailrifo fel a. 47(2)(a) (25.3.2025) gan Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2025 (asc 1), aau. 26(3)(a), 29(1)(b)
F4A. 47(2)(b) ac gair wedi ei fewnosod (25.3.2025) gan Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2025 (asc 1), aau. 26(3)(b), 29(1)(b)
F5Geiriau yn a. 47(10) wedi eu hamnewid (1.7.2022) gan Health and Care Act 2022 (c. 31), a. 186(6), Atod. 4 para. 219(b)(i); O.S. 2022/734, rhl. 2(a), Atod. (ynghyd â rhlau. 13, 29, 30)
F6Geiriau yn a. 47(10) wedi eu hamnewid (1.7.2022) gan Health and Care Act 2022 (c. 31), a. 186(6), Atod. 1 para. 25(b)(i); O.S. 2022/734, rhl. 2(a), Atod. (ynghyd â rhlau. 13, 29, 30)
F7Geiriau yn a. 47(10) wedi eu hamnewid (1.7.2022) gan Health and Care Act 2022 (c. 31), a. 186(6), Atod. 4 para. 219(b)(ii); O.S. 2022/734, rhl. 2(a), Atod. (ynghyd â rhlau. 13, 29, 30)
F8Geiriau yn a. 47(10) wedi eu hamnewid (1.7.2022) gan Health and Care Act 2022 (c. 31), a. 186(6), Atod. 1 para. 25(b)(ii); O.S. 2022/734, rhl. 2(a), Atod. (ynghyd â rhlau. 13, 29, 30)
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C1Aau. 46-49 wedi eu cymhwyso (1.4.2015 at ddibenion penodedig, 6.4.2016 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym) gan Care Act 2014 (c. 23), aau. 52(8), 127(1) (ynghyd ag a. 52(13)(14)); O.S. 2015/993, ergl. 2(p) (ynghyd â darpariaethau trosiannol ynO.S. 2015/995); O.S. 2016/464, ergl. 2(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 47 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)