RHAN 4DIWALLU ANGHENION
Diwallu anghenion: eithriadau a chyfyngiadau
I2C1I146Eithriad ar gyfer personau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo
1
Ni chaiff awdurdod lleol ddiwallu anghenion gofal a chymorth oedolyn y mae adran 115 o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999 (“Deddf 1999”) (gwahardd rhag budd-daliadau) yn gymwys iddo a’r unig reswm y mae ei anghenion am ofal a chymorth wedi codi yw—
a
oherwydd bod yr oedolyn yn ddiymgeledd, neu
b
oherwydd effeithiau corfforol bod yn ddiymgeledd, neu oherwydd yr effeithiau o’r math hwnnw a ragwelir.
2
At ddibenion is-adran (1), mae adran 95(2) i (7) o Ddeddf 1999 yn gymwys ond mae’r cyfeiriadau yn adran 95(4) a (5) o’r Ddeddf honno at yr Ysgrifennydd Gwladol i’w darllen fel cyfeiriadau at yr awdurdod lleol o dan sylw.
3
Ond, hyd nes cychwyn adran 44(6) o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002, mae is-adran (2) i gael effaith fel pe bai’n darllen fel a ganlyn—
2
F1At ddibenion is-adran (1), mae adran 95(3) a (5) i (8) o Ddeddf 1999, a pharagraff 2 o Atodlen 8 iddi, yn gymwys ond mae’r cyfeiriadau yn adran 95(5) a (7) a’r paragraff hwnnw at yr Ysgrifennydd Gwladol i’w darllen fel cyfeiriadau at yr awdurdod lleol o dan sylw.
4
Mae’r cyfeiriad yn is-adran (1) at ddiwallu anghenion oedolyn am ofal a chymorth yn cynnwys cyfeiriad at wneud hynny er mwyn diwallu anghenion gofalwr am gymorth.